Gŵyl Wyddoniaeth Bangor 2016
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Prifysgol Bangor yn ôl am ei chweched blwyddyn. Mae'r ŵyl yn rhedeg o 11-20 Mawrth 2016, ac yn croesawu pawb i archwilio a thrafod gwyddoniaeth drwy gyfrwng sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd ac arddangosiadau o’r digwyddiadau a gynhelir YN RHAD AC AM DDIM.
Cynhelir prif ddigwyddiad yr ŵyl, yr ‘Arddangosfa Bydoedd Cudd', yn Adeilad Brambell ar Ffordd Deiniol rhwng 10.00-4.00 ddydd Sadwrn 12 Mawrth. Bydd y labordai’n llawn bwrlwm gyda gweithgareddau megis ‘Anifeiliaid ysglyfaethus a’u hysglyfaeth’ a sesiwn ar ffotoneg sef ‘gwyddor golau’, fel rhan o weithgareddau’r diwrnod gwyddoniaeth ymarferol. Bydd yr acwaria ymchwil yn agored i’r cyhoedd a bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cyffwrdd ag ymlusgiaid a chreaduriaid y môr a’u dal yn eu dwylo. Caiff y cyhoedd hefyd ymweld ag amgueddfa byd natur hynod drawiadol y Brifysgol. Ar ben hyn, cynhelir y sioe gemeg 'Flash Bang’ am 12.00 a 1.30, gan sicrhau y bydd digon i'w wneud a'i weld ar gyfer pobl o bob oed.
Yn ystod yr Ŵyl bydd y fenter #CaruEichDilladBangor yn cael ei lansio. Mae tunnell a hanner o ddillad yn cael eu taflu i ffwrdd pob 90 eiliad - dewch i weld sut beth yw hynny mewn gwirionedd. Dysgwch sut y gall eich hen ddillad chi helpu eraill. Gwnewch rywbeth newydd allan o’ch hen decstilau drwy weithio gyda'n dylunwyr a dewch i atgyweirio neu addasu eich hoff hen ddilledyn yn ein caffi atgyweirio. Cewch hyd i ddyddiadau ac amseroedd ar y wefan http://planet.cymru/cy/events/lyc-2weeks/
Nid yw ceir trydan yn bethau o’r dyfodol pell erbyn hyn a bydd cludiant trydan yn sicr o newid y ffordd yr ydym yn teithio. Ar ddydd Mawrth 15 Mawrth bydd cyflwyniad cyffrous, rhyngweithiol a fydd yn edrych ar wahanol fathau o drafnidiaeth trydan a rhoi cyfle i chi weld ceir trydan – y Nissan Leaf a’r Tesla Model S.
Cewch gyfle unigryw i gyfarfod a sgwrsio â myfyrwyr Cyfrifiadureg blwyddyn olaf yn eu sesiwn poster a fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 16 Mawrth am 1 o’r gloch yn adeilad Stryd y Deon. Hefyd ar yr un diwrnod cynhelir Diwrnod Agored ôl-radd a fydd yn cynnig cyngor a gwybodaeth ar sut i fynd ati i wneud cais am gyrsiau ôl-raddedig. Bydd hyn yn cael ei gynnal am hanner dydd yn Neuadd PJ - darperir cinio.
Ymhlith y digwyddiadau cyhoeddus eraill a geir yn ystod yr Ŵyl mae teithiau cerdded daearegol i weld rhai o'n tirweddau ysblennydd. Bydd y daith o gwmpas Traeth Coch ar Ynys Môn ar ddydd Sul, 20 Mawrth.
Meddai Stevie Scanlan o Goleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol y Brifysgol ac un o gyd-drefnwyr y digwyddiad:
"Pan sefydlwyd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor chwe blynedd yn ôl ein nod oedd cysylltu â'r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru ac arddangos yr ymchwil wyddonol o safon ryngwladol a wneir yma ym Mangor. Rydym yn falch o fod yn ganolbwynt i weithgareddau Bangor ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain, a chael gweithio gyda'n partneriaid a’n noddwyr i gynnig wythnos arall o weithgareddau llawn bwrlwm."
Cyllidir yr Ŵyl gan Brifysgol Bangor. Cewch fanylion llawn am yr holl ddigwyddiadau ar wefan Gŵyl Wyddoniaeth Bangor www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival/index.php.cy neu anfonwch e-bost at y trefnwyr ar b.s.f@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2016