Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn llwyddiant ysgubol
Roedd cyfle i bobl o bob oedran ddathlu Wythnos Wyddoniaeth a Pheirianneg 2012 mewn steil yn ystôl ail Ŵyl Wyddoniaeth Bangor, a drefnwyd gan Brifysgol Bangor.
Denodd yr Ŵyl gannoedd o bobl i Fangor i fwynhau digwyddiadau a oedd yn amrywio o ddarlithoedd cyhoeddus, cystadlaethau, digwyddiadau ysgolion, diwrnodau darganfod gwyddoniaeth a thaith ddaeareg.
Dywedodd Rosanna Robinson, o’r Coleg Gwyddorau Naturiol: “Bwriad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yw cael y cyhoedd i drafod a chymryd rhan mewn unrhyw beth i wneud a gwyddoniaeth. Mae codi ymwybyddiaeth o wyddoniaeth sydd yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor yn bwysig iawn i ni ac mae cael y cyfle i groesawu gymaint o bobl i’r Brifysgol eleni wedi bod yn wych.”
Dywedodd Stevie Scanlan, un o drefnwyr yr Ŵyl o’r Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol: “Roedd pawb yn gefnogol iawn eleni ac roedd y digwyddiadau gyda llawer o ymwelwyr.
“Daeth dros 50 o bobl i’r daith ddaeareg , gyda’r ieuengaf yn 7 oed a’r hynaf yn 80 oed! Daeth dros 500 o bobl i labordai Brambel i’r Arddangosfa Bydoedd Cudd yn ystod y penwythnos olaf ac roedd dros 600 o bobl yn y Diwrnod Gwyddoniaeth Wyllt yng Ngardd Fotaneg Treborth.”
Cefnogwyd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor gan Pontio, Cronfa Dr Tom Parry Jones a Gelli Gyffwrdd.
Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan yn y dyfodol e-bostiwch b.s.f@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2012