Gynhadledd Astudiaethau Celtaidd
Cynhelir y Gynhadledd Astudiaethau Celtaidd Gyntaf Bangor ym Mhrifysgol Bangor y benwythnos hon, y digwyddiad cyntaf o’i fath ym Mangor. Mae’r gynhadledd ryngwladol sylweddol hon wedi denu ysgolheigion o bedwar ban y byd, gan gynnwys Rwsia, Siapan, Awstria, yr Iseldiroedd, Gwlad Pŵyl, Ffrainc, Gogledd America, Yr Alban, Iwerddon, Lloegr, a Chymru.
Mae’r gynhadledd yn rhedeg o ddydd Gwener 20 Gorffennaf i ddydd Llun 23 Gorffennaf ym Mhrif Adeilad y Celfydyddau, a threfnir y gynhadledd gan Dr Kate Olson a’r Athro Raimund Karl yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru, ac Archaeoleg. Mae’n cynnwys ystod eang o bapurau ym maes Astudiaethau Celtaidd, gan gynnwys papurau ar ieithyddiaeth Geltaidd canoloesol, modern cynnar, a modern, llenyddiaeth, iaith, hanes, y gyfraith, archaeoleg, celf, cerddoriaeth, a diwylliant. Mae papurau yn cwmpasu pynciau sydd yn berthyn i Iwerddon, Cymru, yr Alban, Y Llydaw, Ynys Manaw, a Chernyw.
Dywedodd trefnydd y gynhadledd, Dr Olson: ‘Rydym yn hapus dros ben i groesawu cymaint o ysgolheigion o fri o ledled y byd ar gyfer y gynhadledd hon. Mae’n cynnig ymchwil rhyngwladol arloesol ym maes Astudiaethau Celtaidd, gan gynnwys gwaith llawer o ysgolheigion Prifysgol Bangor. Rydym yn fodlon iawn gan yr ymateb aruthrol ein bod ni wedi cael i’n galwad am bapurau ar gyfer y gynhadledd gyntaf hon, ac rydym yn edrych ymlaen i’r benwythnos.’
Mae’r gynhadledd wedi denu mwy na 60 o academyddion o bedwar ban y byd i Fangor am bedwar diwrnod er mwyn trafod nifer o bynciau Astudiaethau Celtaidd. Mae’r rhain yn cynnwys: yr ieithoedd Cymraeg, Cernyweg, a Phicteg; brenhinoedd a rhyfelwyr Gweddeleg yr Oesoedd Canol; y mudiad gwerinaethol Gwyddeleg modern; breninesau Cymraeg a’r Mabinogion yng Nghymru’r Oesoedd Canol; pêl-droed ac hunaniaeth Geltaidd; archaeoleg Gwyddeleg a Chymraeg; cerddoriaeth Lydaweg, Fanaweg, Albaneg, Wyddeleg, a Chymraeg; hanes brenhiniaeth Geltaidd; saethyddiaeth ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol; beirdd a’r Chwyldro Ffrengig; nifer o bynciau ar lenyddiaeth fodern, gyn gynnwys ôl-wladychiaeth a llenyddiaeth i blant; a chyflwr yr ieithoedd Celtaidd heddiw.
Mae’r siaradwyr cyweirnod, sef rhai o’r academyddion blaenllaw y byd ym maes Astudiaethau Celtaidd, yn cynnwys yr Athro Brynley Roberts (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd), yr Athro Harry White (Coleg y Brifysgol, Dulyn), yr Ayhro David Dumville (Prifysgol Aberdeen), yr Athro Colin Williams (Prifysgol Caerdydd), a’r Athro Nancy Edwards o Brifysgol Bangor.
Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd a chofrestru, cysylltwch â Dr Kate Olson (his802@bangor.ac.uk) neu drwy ffonio 01248 382143, neu Linda Jones (l.c.jones@bangor.ac.uk). Cliciwch i dderbyn manylion cofrestru a cliciwch ar gyfer rhaglen y gynhadledd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2012