Gyrru cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd yn Amaeth Tir Pori
Ynglŷn â’r Partneriaethau Hyfforddiant Uwch:
Nod Partneriaethau Hyfforddiant Uwch y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yw cryfhau sgiliau gwyddonol arbenigol mewn meysydd sy’n strategol bwysig i’r diwydiant bwyd-amaeth yn y DU, drwy hyfforddiant uwchraddedig, hyblyg.
Ariannwyd pedair partneriaeth, gan fuddsoddi £12M i gyd. Mae’r partneriaethau yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cynnwys holl ystod cynhyrchu bwyd o’r fferm i’r fforch. Am fwy o wybodaeth ar holl ystod y Partneriaethau Hyfforddiant Uwch, ewch i wefan Partneriaeth Hyfforddiant Uwch y Cyngor Ymchwil: http://www.bbsrc.ac.uk/atp/
Ein Partneriaeth Hyfforddiant Uwch mewn Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy ac Effeithiol
Y Diwydiant yn Arwain: Mae’r Bartneriaeth Hyfforddiant Uwch yn gyfrwng ar gyfer hyfforddiant dan arweiniad ymchwil, sy’n canolbwyntio ar ymateb i anghenion y diwydiant. Ein nod yw cynyddu cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd Amaeth Tir Pori yn y DU, ac er mwyn canfod mwy ewch i:: www.atp-pasture.org.uk Bydd y Bartneriaeth Hyfforddiant Uwch yn sylfaen hyfforddiant hylaw fydd yn galluogi busnesau perthnasol i gwrdd â heriau gwirioneddol:
- Byw gydag effeithiau newid hinsawdd
- Sicrwydd bwyd a sicrhau’r gadwyn gyflenwi
- Anghenion y gymdeithas a chwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid
Partneriaeth: Mae ein Partneriaeth Hyfforddiant Uwch yn cynnwys Partneriaid Dysgu [Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth (IBERS), Coleg y Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor a’r Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol; a Phartneriaid Rheoli [Lantra, Waitrose, Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth Gwyddorau Biolegol, Bwydydd Castell Howell Cyf, BioTal Cyf, XL Vets a British Seed Houses].