Haf o berfformiadau byd-eang
Bydd darlithydd o Brifysgol Bangor wrthi’n brysur yn perfformio ym mhedwar ban byd yr haf hwn. Bydd Dr Ed Wright, sy’n dysgu cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ei gyfansoddiadau electroacwstig ei hun mewn amryw o leoliadau. Meddai Dr Wright:
“Mae’n wych fod gen i’r cyfle i fynd allan a chyflwyno gwaith sy’n seiliedig ar yr ymchwil rwy’n ei gwneud. Mae nifer o brojectau cerddoriaeth yr haf yma’n golygu gweithio gyda chyfansoddwyr neu berfformwyr eraill, felly mae’n wirioneddol ddiddorol cyfnewid syniadau a gweld sut y gall gwaith ddatblygu a thyfu, a chael ei ddehongli y tu hwnt i’ch syniadau chi, sef y ‘cyfansoddwr’, a’r rheiny weithiau’n gyfyngedig. Ar ben hynny, mae’n wych mynd i weld rhannau eraill o’r byd a gweithio yno mewn modd creadigol, am fod y celfyddydau, yn ddigon aml, heb fod mor unffurf ar raddfa fyd-eang ag y cawsom gredu!”
‘Risk of Shock’ fydd y digwyddiad cyntaf, sydd i’w gynnal ar 21 Mehefin yn Neuadd JP, Prifysgol Bangor. Prosiect a ddatblygwyd gan Pontio yw Pelydrau, sy’n rhoi cyfle i blant o anghenion addysgiadol arbennig i arbrofi gyda sain a chyfansoddi, yn ogystal â gweithio tuag at berfformiad o ansawdd uchel o’r gwaith a grewyd ganddynt. Mae’r digwyddiad rhyngweithiol hwn hefyd yn cynnwys gweithiau gan Richard Garret, Rob Mackay a pherfformiadau gan y clarinetydd ifanc, Sioned Eleri Roberts.
Yna, bydd Ed yn ymweld â Phrifysgol Brunel, Llundain ar gyfer Gŵyl BEAM, a gynhelir rhwng 22 a 24 Mehefin. Mae Gŵyl BEAM yn arddangos celfyddydwaith â sain.
Cauldrons and Furnaces fydd y perfformiad nesaf, ar 1 Gorffennaf, yng Nghastell Caernarfon. Menter gan Cadw yw hon, sy’n arddangos yr amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd yng Nghymru trwy rychwant eang o weithgareddau creadigol. Bwriad Cauldrons and Furnaces yw adlewyrchu’r dathliadau sy’n arwain at Lundain 2012, ac mae’n bartneriaeth rhwng Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chyllid o Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU. Mae perfformiad Ed yn cyfrannu at y digwyddiad lliwgar, sy’n cynnwys gweithdai celfyddyd gymunedol, dawns, cerddoriaeth a gweithgareddau crefftau creadigol.
O Gaernarfon yn ôl i Lundain, bydd Ed yn perfformio yn Scaledown, cyfres barhaus o adloniant amgen, ar ôl oriau swyddfa, ar 27 Gorffennaf.
Yna, ym mai Awst, bydd Ed yn croesi’r Iwerydd i fynd i Symposiwm Electroacwstig dros dri diwrnod yn Toronto, lle bydd yn perfformio i gymuned electroacwstig amrywiol.
Bydd ei berfformiad olaf i’w glywed yn y Gynhadledd Ryngwladol ar gyfer Cerddoriaeth Gyfrifiadurol, sydd i’w chynnal yn Ljubljana, Slofenia, rhwng 9 – 15 Medi; hwn yw’r prif fforwm er 1974 ar gyfer cyflwyno’r ystod lawn o ddeilliannau o ymchwil dechnegol a cherddorol, yn gerddorol ac yn theoretig, yng nghyswllt defnydd cyfrifiaduron mewn cerddoriaeth.
I gael mwy o wybodaeth am Ed, ynglŷn â lle bydd yn perfformio, ac am fyd cerddoriaeth electroacwstig, ewch i’w wefan, sef http://www.virtual440.com.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012