Hanesion Cudd
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol archebu lle mewn ysgol undydd Hanesion Cudd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am hanes, archaeoleg a phensaernïaeth Prifysgol Bangor.
Mae Ysgol Hanes ac Archaeoleg y brifysgol mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau wedi llunio rhaglen gyffrous fydd yn tynnu sylw at rai o'r ffeithiau diddorol am hanes a threftadaeth y brifysgol, ac yn dangos pa mor gyfoethog yw'r casgliadau archifol sy'n dyddio nôl i'r oesoedd canol.
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda chyfres o ddarlithoedd byr a fydd yn canolbwyntio ar y personoliaethau a'r digwyddiadau sydd wedi helpu i ffurfio stori Prifysgol Bangor; yn dangos pa archaeoleg sydd ym mharc y coleg ac ystyried ystyr yr herodraeth sydd i'w gweld yn adeiladau cain y coleg.
Bydd teithiau tywys yn dangos ychydig o'r bensaernïaeth wych a chasgliadau'r brifysgol.
Dyma rai o'r Hanesion Cudd fydd yn cael eu datgelu:
Gadawodd y pensaer Henry Hare farc arbennig ar yr adeilad Neo-gothig a ddyluniodd ac sydd yn awr yn adeilad rhestredig gradd 1. Er y caiff yr adeilad ei ddisgrifio'n aml fel 'yr union yr un fath â Hogwarts!' mewn gwirionedd mae'n un o'r enghreifftiau gorau o adeiladau cyhoeddus Neo-gothig yn y DU. Dewch i weld lle cuddiodd y pensaer ei farc arbennig.
Mae'r Porth Coffa a saif o dan brif adeiladau'r brifysgol yn gofeb i'r holl ddynion o siroedd gogledd Cymru a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dewch i glywed pa bensaernïaeth a ysbrydolodd dyluniad y gofeb.
Oeddech chi’n gwybod bod archaeolegwyr wedi cael hyd i dystiolaeth o gapel canoloesol a lle claddu ar dir y brifysgol? Cewch weld canlyniadau'r arolwg archaeolegol a dysgu am ei hanes eglwysig.
Mae Esgoblyfr Bangor yn eiddo i Ddeon a Chabidwl Cadeirlan Bangor ond fe'i cedwir yn ddiogel yn yr archif felly gallwch ail-greu rhai o wasanaethau'r eglwys yn yr oesoedd canol. Roedd y llyfr goliwiedig prin hwn yn eiddo i Anian, Esgob Bangor yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae'n un o'r dogfennau y gellir eu hastudio yn Archifau'r brifysgol.
Mae hanes mwy diweddar yn cynnwys gwrthdystiadau gan fyfyrwyr y brifysgol a sut mae'r brifysgol bellach yn gartref naturiol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Meddai Dr Karen Pollock, Darlithydd yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg sydd wedi trefnu'r ysgol undydd:
"Mae gan Brifysgol Bangor hanes maith a diddorol yr ydym yn awyddus i'w rannu. Dyma gyfle i ddysgu am y bobl a'r digwyddiadau sydd wedi helpu i ffurfio gorffennol y brifysgol, cewch grwydro drwy adeiladau hardd y coleg a ddyluniwyd gan Henry Hare ar ddechrau'r ugeinfed ganrif a rhyfeddu at rai o'r trysorau hanesyddol a gedwir yn archifau'r brifysgol."
Bydd y diwrnod o ddiddordeb i unrhyw un sy’n frwd am y gorffennol ac am hanes gogledd Cymru, pobl a fu'n fyfyrwyr ym Mangor neu sydd wedi gweithio yma, a'r rhai sy'n ystyried astudio yn y brifysgol yn y dyfodol.
Gellir cofrestru ar gyfer yr ysgol undydd drwy fynd i dudalennau digwyddiadau'r brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017