Hanner canrif ers Sgt Pepper ac ymweliad y Beatles â Bangor
Mae’n hanner canrif ers i Sgt Pepper ddysgu ei fand i chwarae, gyda rhyddhad albwm, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band; sydd yn aml wedi ei ddisgrifio fel yr ‘albwm cysyniadol’ o bwys cyntaf, ac a ystyrir yn gyffredinol fel un a dorrodd gŵys newydd. Gellir dadlau iddo hefyd cael ei ystyried yn un o’r ‘adegau’ yna a newidiodd ffurf newydd ar gelfyddyd (ac efallai a esgorodd ar hynny).
Mae hefyd yn hanner canrif (25-27 Awst 1967) ers i’r Beatles ymweld â Bangor, ymweliad a brofodd i fod yn drobwynt yn hanes y grŵp.
Gwahoddwyd y ‘Fab Four’ (neu’r ‘Pedwar Penigamp’!) i’r Coleg Normal (bellach yn rhan o Brifysgol Bangor) gan Maharishi Mahesh Yogi. Roedd Maharishi wedi ail becynnu ymarferiadau myfyrio hynafol dwyreiniol ar gyfer cynulleidfaoedd gorllewinol o dan drefn Transcendental Meditation. Roedd y mudiad ‘Transcendental Meditation’, a elwir hefyd yn Fudiad Adfywiad Ysbrydol, wedi bod yn cynnal eu cynhadledd flynyddol Brydeinig yn y Coleg Normal ers nifer o flynyddoedd.
Roedd gan y Beatles eisoes ddiddordeb mewn crefyddau dwyreiniol pan ddaeth Maharishi i Lundain fis Awst 1967. Gwraig George Harrison, Pattie oedd yr un a welodd y taflenni hysbysebu yn dweud fod Maharishi Mahesh Yogi am fod yn bresennol mewn cyfarfod yn Llundain, a hi a berswadiodd George a’r gweddill i fynychu. Yno, gwahoddodd Maharishi y grŵp i’r gynhadledd a chwrs ym Mangor (a hyn heb i’r trefnwyr ym Mangor wybod dim amdano), ac fe benderfynodd y pedwar ymuno â’r gynhadledd, a oedd eisoes wedi cychwyn.
Yma ym Mangor, clywodd Mr Iorwerth Roberts, gohebydd y Daily Post am yr ymweliad, a rhoddodd wybod i Mr Gwyn Thomas, Bwrsar y Coleg Normal fod y Beatles ar eu ffordd, ynghyd a’u ffrindiau Marianne Faithfull a Mick Jagger. Trefnodd Mr Thomas i groesawu’r gwesteion enwog yn fflatiau’r wardeiniaid, ac i ymdopi â’r llu o newyddiadurwyr a chefnogwyr a fyddai’n siŵr o’u dilyn.
Roedd blwyddyn wedi mynd heibio ers cyngerdd byw olaf y Beatles yn San Francisco ac roedd ymddangosiadau cyhoeddus ganddynt yn mynd yn gynyddol brin. Felly, pan ledaenodd y newyddion, roedd gorsaf Euston dan ei sang gyda chefnogwyr ar gyfer ymadawiad y trên y disgrifiodd y Daily Mail fel y ‘Mystical Special’, ond a oedd yn fwy anniddorol ar yr amserlen fel y trên 3.15 i Gaergybi. Cymaint oedd nifer y cefnogwyr yno, fe gamgymerwyd Cynthia Lennon fel cefnogwr gan un plismon ac ni chafodd ymuno â’r trên!
Roedd croeso'r un mor wresog a niferus yn eu disgwyl ym Mangor ar y nos Wener.
Ddydd Sadwrn fe drefnwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd John Phillips y Brifysgol, ynghyd â chynhadledd i’r wasg, lle llwyddodd dau fachgen ysgol mentrus i gael mynediad drwy gogio bod yn newyddiadurwyr!
Roedd Brian Epstein, rheolwr y Beatles wedi bod yn bresenoldeb cyson yn eu bywydau, ac roedd wedi bwriadu ymuno â hwy ddydd Llun.
Gellir dadlau mai’r digwydd a newidiodd ffawd y Beatles fel grŵp oedd marwolaeth Epstein. Unwaith y torrodd y newyddion am hyn, ar ddydd Sul y penwythnos hwnnw ym Mangor, yn amlwg, roedd mwy o ddiddordeb yn y Beatles a’u hymateb i’r newyddion.
Cafodd Epstein ei ddisgrifio gan Paul McCartney a’r cynhyrchydd George Martin fel y ‘pumed Beatle’ ac mae llawr o lwyddiant y grŵp yn cael ei briodoli iddo. Fe newidiodd delwedd y grŵp ac roedd yn gyfrifol am ennill contract recordio o bwys cyntaf y grŵp. Roedd yn ymwneud yn agos â gweithgareddau’r grŵp, ac roedd yn teithio gyda nhw ar eu teithiau ar draws y byd, gan edrych ar ôl eu delwedd gyhoeddus a’u materion ariannol.
‘Gellir olrhain cychwyn diddymiad y grŵp i farwolaeth Epstein,’ esbonia’r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. ‘Fel gŵr busnes profiadol a mentor artistig, ef oedd yr un a oedd wedi llywio’r Beatles trwy sawl storm. Hebddo, dechreuodd y Beatles golli eu pwrpas cyffredin ac, yn y pendraw, gwahanu i ddilyn eu diddordebau eu hunain.”
Yn ddiweddarach, datgelodd archwiliad post mortem bod Brian Epstein wedi marw o orddos o dabledi cysgu. Cofnodwyd y farwolaeth yn swyddogol fel un ddamweiniol.
Yn fuan wedi derbyn newyddion am farwolaeth Epstein, penderfynodd y Beatles dorri eu harhosiad ym Mangor yn fyr. Cyn gadael, rhoddodd y Beatles gyfweliad i Derek Bellis o gwmni teledu Harlech Television (bellach yn rhan o ITN), a ofynnodd iddynt am eu teimladau, ac am y cwnsela a roddwyd iddynt gan Maharishi. Darlledwyd y cyfweliad o amgylch y byd, ond fe ddigwyddodd yma ym Mangor.
Yma, mae myfyrwyr cerdd yn cael eu cyflwyno i’r Beatles a’u cerddoriaeth o fewn cyd-destun cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif, fel rhan o fodiwl craidd Astudiaeth Cerddoriaeth Blwyddyn 1 (WXM-1001 a WXM1002). Mae’r Athro Chris Collins a Dr John Cunningham hefyd yn dysgu modiwlau blwyddyn 2 a 3 ar y Beatles WXM2160 a WXM3160), lle maent yn astudio cerddoriaeth a recordiadau’r grŵp drwy archwilio cyd-destun y cynnwys hanesyddol a bywgraffiadol, yn ogystal â chynnig cyfres o fframweithiau beirniadol a dadansoddol er mwyn cynnig dealltwriaeth fwy manwl o’r caneuon.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017