hAPus i Learn Cymraeg!
Yr wythnos hon bydd ap 'Learn Cymraeg Mynediad' a 'Learn Cymraeg Sylfaen' ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'r App Store neu Google Play.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor wedi bod wrthi'n datblygu dau ap rhyngweithiol, hwyliog i helpu dysgwyr Cymraeg i ymarfer tu allan i'r dosbarth.
Mae sawl templed rhyngweithiol gwahanol yn yr apiau sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu sgiliau Cymraeg, gan gynnwys chwileiriau, recordio llais, gwrando ac ateb ac amryw o dempledi eraill.
Bellach, mae'r ddau ap ar gyfer y ddwy lefel yn barod a byddant yn cael eu lansio'n swyddogol ar y gyfres deledu Cariad@Iaith, sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru. Bydd wyth person enwog yn 'bwyta, cysgu a dysgu Cymraeg' gyda'r gobaith y bydd un yn cael ei goroni'n bencampwr Cariad@Iaith 2015. Wrth drafod yr ap, dywedodd Nia Parry cyflwynydd y gyfres a thiwtor Cymraeg profiadol,
“Mae'r ap newydd yma'n adnodd dysgu gwych... fel cael eich tiwtor Cymraeg yn eich poced. Gallwch ei ddefnyddio tra 'dach chi ar y bws neu'r trên, yn yr ardd yn ymlacio neu ar y tŷ bach! Mae'n ffordd dda o ymarfer ychydig bach yn aml.”
Mae Lowri Jones o Ganolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio ar ddatblygu'r ddau ap dros y misoedd diwethaf.
"Dw i'n gyffrous iawn bod y ddau ap bellach yn barod. Mae wedi bod yn broses hir paratoi'r cynnwys a phenderfynu ar dempledi addas, ond dw i'n hapus iawn bod gynnon ni ddau ap fydd yn adnoddau gwerthfawr iawn i ddysgwyr Cymraeg mewn oes ddigiol."
Mae Mike Harris, perchennog Optimwm, un o’r cwmniau fu’n datblygu’r apiau wedi dysgu Cymraeg ei hun. Mae cydweithio ar y project wedi bod yn hwb mawr iddo ef.
“Mi ddysgais i ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, ond doedd byth digon o hyder gen i i siarad yr iaith gan fy mod wastad wedi teimlo nad oedd fy Nghymraeg yn ddigon da. Trwy ddefnyddio’r ymarferion sydd yn cael eu cynnig yn ap LearnCymraeg, mae fy hyder wedi gwella. Dw i nawr yn teimlo’n gyfforddus i siarad Cymraeg.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:
“Mae gan dechnoleg rôl bwysig i’w chwarae i gefnogi dysgwyr ac mae galw cynyddol am ddarpariaeth e-ddysgu Cymraeg i Oedolion. Llongyfarchiadau i Brifysgol Bangor am ddatblygu’r app yma.”
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, bellach wedi dechrau datblygu ap ar gyfer lefel Canolradd. Y nod yw cyhoeddi'r ap yn fuan yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Dywedodd Haydn Hughes, dirprwy gyfarwyddwr y ganolfan:
"Dan ni'n falch iawn o'r buddsoddiad hwn, a'r ffaith y byddwn ni'n gallu darparu apiau dysgu Cymraeg ar y tair lefel. Mae'n rhaid buddsoddi mewn adnoddau digidol i ddysgwyr Cymraeg, a sicrhau lle i'r Gymraeg ar blatfform rhyngwladol, drwy ddarparu adnoddau cyfredol sy'n cyd-fynd â bywyd digidol heddiw. "
Darlledir y gyfres Cariad@Iaith ar S4C rhwng Mehefin 14eg a’r 20fed 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2015