Hatric i Fangor yn yr Eisteddfod Ryng-golegol 2018
Yn dilyn penwythnos o gystadlu, Prifysgol Bangor ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Ryng-golegol 2018, camp am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Mae'r Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau myfyrwyr Cymraeg Cymru ac roedd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan eleni gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Osian Owen, myfyriwr Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor oedd enillydd y Gadair a'r Goron.
Dywedodd Osian: “Mi oedd ennill y dwbl yn sioc fawr imi, ond roedd yn fraint cael codi i dderbyn y ddwy wobr o flaen fy ffrindiau pennaf. Roedd hi’n fraint cael beirniadaeth gan fardd mor brofiadol â Tudur Dylan hefyd.”
Myfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth, Alistair Mahoney enillodd Tlws y Cerddor a Nia Hâf, myfyrwraig yn yr Ysgol y Gymraeg enillodd y Fedal Ddrama, gyda’r ddau yn enillwyr am yr ail flwyddyn yn olynol.
Meddai Elen Hughes, aelod o’r Cymric, corff cymdeithasol sy'n perthyn i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB): “Anodd tu hwnt fydd profi penwythnos cystal â hon. Bydd edrych yn ôl ar ein cyfnod yn y Brifysgol gyda’r gallu i ddatgan ein hatric rhyng-golegol yn deimlad arbennig iawn.
“Roedd gweld Osian yn codi dwywaith, wedi ennill y gadair a’r goron yn foment balch iawn i ni gyd fel ffrindiau a chyd-fyfyrwyr. Bu’r meim, y dawnsio, a’r côr SATB yn uchafbwyntiau anochel imi yn bersonol. Heb os, dyma gyfnod o fewn ein blwyddyn academaidd lle daw pawb at ei gilydd gyda’r un nod mewn golwg - dychwelyd â’r darian adref i Fangor.”
Dywedodd Gethin Morgan, aelod o’r Cymric a Llywydd Etholedig UMCB ar gyfer 2018/19: “Am benwythnos! Roedd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn un arbennig iawn i Fangor eleni rhywun ar lwyfan ar gyfer bob un gystadleuaeth! Roedd bod yn rhan o ennill yr hatric yn rhywbeth bydd yn y cof am byth a rhaid i ni ddiolch i'r rhai a fu ynghlwm a'r llwyddiant am weithio mor ddiwyd! I mi'n bersonol, yr uchafbwynt oedd canu ac ennill y Côr.”
Dywedodd Mirain Llwyd, Llywydd UMCB: “Fedrai ond diolch i bawb o Fangor! Ond yn enwedig i’r rheiny a drefnodd yr holl ymarferion a dysgu. Mae’r holl waith caled wedi talu. Hefyd, diolch i bawb gymerodd ran boed hynny’n unigol neu mewn grŵp. Roedd angerdd yn amlwg yn y perfformiadau ac roedd bod yn aelod o UMCB yn rhywbeth roedd pawb yn falch ohono drwy’r dydd. Braf oedd dod a’r darian yn ôl am yr hatrig! Diolch i bob un ohonoch! A diolch enfawr i’r Drindod am drefnu Eisteddfod wych. Fy uchafbwynt i oedd Osian Owen yn ennill y Gadair a’r Goron - camp a hanner!”
Caiff yr Eisteddfod Ryng-golegol ei hystyried fel un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar galendr unrhyw fyfyriwr Cymraeg neu ddysgwr sy’n astudio yng Nghymru a hefyd i rai o’r cymdeithasau Cymraeg sydd wedi’u ffurfio tu allan i Gymru.
Yn ogystal â’r cystadlu ar y llwyfan a’r Gwaith Cartref, cynhaliwyd Gala Chwaraeon rhyng-golegol, oedd yn cynnwys Rygbi, Pêl droed a chystadleuaeth Pêl rwyd 7 bob ochr. Roedd y Gig mawreddog ar nos Sadwrn, gyda nifer o fandiau Cymraeg gan gynnwys DJ Garmon, Gwilym, Fleur De Lys ac Y Cledrau.
Mae’r Eisteddfod dros y blynyddoedd wedi sicrhau llwyfan i hybu doniau a thalentau nifer helaeth o fyfyrwyr ac mae’n siŵr y bydd y traddodiad hwn yn parhau yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2018