'Hei Pync, Sortia dy Jync' – ymgyrch ddiwedd tymor i waredu gwastraff
Mae Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth dros wythnosau olaf y tymor â Chyngor Gwynedd er mwyn lleihau sbwriel ar y strydoedd yn y rhannau hynny o’r ddinas ble mae myfyrwyr yn byw gyda'r ymgyrch 'Hei Pync, Sortia dy Jync'.
Mae'r ymgyrch ar y cyd yn gymorth mawr i fyfyrwyr waredu gwastraff na ellir ei ailgylchu wrth symud allan o'u tai, ac mae ymgyrchoedd tebyg wedi helpu i gadw'r safon uchel o lendid yn y strydoedd hynny dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd casgliadau ychwanegol yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd, a fydd yn golygu yn ogystal â'r casgliadau bagiau du/biniau gwyrdd arferol, bod cyfle i waredu gwastraff heb orfod disgwyl tan y casgliad rheolaidd nesaf.
Dyddiadau'r casgliadau ychwanegol eleni yw 23 a 31 Mai mewn strydoedd penodol ym Mangor. Mae’r ymgyrch yn annog myfyrwyr i wneud yn fawr o'r casgliadau ychwanegol hyn wrth symud allan o'u cartrefi. Cesglir y bocsys ailgylchu glas a'r bin gwastraff bwyd brown fel arfer ar sail wythnosol dros y cyfnod hwn, ac mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r biniau hynny. Bydd yr un cyfyngiadau i'r casgliadau ychwanegol ag i'r casgliadau biniau gwyrdd arferol (hyd at dri bag du neu un bin olwyn gwyrdd llawn) ac mae’r ymgyrch yn annog pawb i ailgylchu gwastraff yn effeithiol.
Dywedodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Conor Savage: “Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a'r Brifysgol ar yr ymgyrch hon ac yn hapus na fydd unrhyw newid i safon glendid ar y strydoedd yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn falch o'n myfyrwyr ac yn ceisio cryfhau'r berthynas rhwng y myfyrwyr a thrigolion Bangor yn barhaus; mae'r ymgyrch hon yn cynorthwyo'r berthynas honno.”
Meddai Gwyn Morris Jones, Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol gyda Chyngor Gwynedd:
"Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eto eleni eu bod o ddifrif yn eu hymrwymiad i waredu gwastraff yn gyfrifol yn y ddinas. Mae Cyngor Gwynedd yn falch o’r gwaith partneriaeth llwyddiannus sydd wedi cael ei fabwysiadu gan yr Undeb a'r Brifysgol o ran rheoli gwastraff myfyrwyr dros y saith mlynedd ddiwethaf.”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017