Helena Miguélez-Carballeira, ysgolhaig o Brifysgol Bangor, yn ennill grant i arwain rhwydwaith ymchwil ar gyfieithu yng Nghymru
Mae’r project ‘Translation in Non-State Cultures: Perspectives from Wales’ wedi ennill grant datblygu ymchwil gan yr AHRC. Mae Dr Helena Miguélez-Carballeira, darlithydd Sbaeneg a chyfarwyddwr y rhaglen astudiaethau cyfieithu ôl-radd yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor wedi ennill £12,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i arwain rhwydwaith ymchwil ar gyfieithu yng Nghymru.
Bydd y project yn sefydlu rhwydwaith cydweithredol i ymchwilwyr, hyfforddwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n gweithio yn y maes cyfieithu yng Nghymru. Ei nod yw darparu llwyfan i theori ac ymchwil sy'n gysylltiedig ag ymarfer yn y maes cyfieithu sy’n edrych yn benodol ar y cyd-destun Cymraeg ac yn cyfrannu at ddadleuon ehangach am gyfieithu mewn diwylliannau anwladwriaethol.
Un gred hanfodol a rennir gan aelodau'r rhwydwaith yw, er mwyn deall Cymru, yn hanesyddol ac yn y cyfnod cyfoes, bod rhaid rhoi mwy o sylw i faterion yn ymwneud â chyfieithu, ffaith nad yw wedi cael ei hystyried bob tro y tu hwnt i faes polisi iaith a diwylliant.
Mae’r rhwydwaith yn dwyn ynghyd ysgolheigion astudiaethau cyfieithu ym Mangor, sef Dr Helena Miguélez-Carballeira, Dr Stefan Baumgarten a Dr Yan Ying (o’r Ysgol Ieithoedd Modern), Dr Angharad Price (Cymraeg, Bangor), Yr Athro Sioned Davies (Cymraeg, Caerdydd) a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Dywedodd Dr Miguélez-Carballeira: Rwy’n hynod falch o ennill y grant a chael y cyfle i arwain y project arloesol hwn. Bydd y rhwydwaith yn adeiladu sylfaen i ymchwil angenrheidiol a chydweithio ymarferol ar thema cyfieithu yng Nghymru, ar adeg pan mae mwy o bwerau datganoledig a llai o adnoddau cyhoeddus yn golygu bod cyfieithu’n fater polisi o bwys mawr yn y wlad erbyn hyn.
Bydd y rhwydwaith yn cynnal tri digwyddiad yn ystod y chwe mis nesaf: Gweithdy undydd ym mis Ebrill 2012 i aelodau’r rhwydwaith; panel yng nghynhadledd NAASWCH a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor rhwng 26 a 28 Gorffennaf, 2012; a chynhadledd ddeuddydd ryngwladol ‘Translation in Non-State Cultures: Perspectives from Wales and other Celtic Nations’, i’w chynnal ym Mangor ddechrau fis Medi eleni. Bydd gan y rhwydwaith hefyd wefan ddwyieithog fydd yn cynnwys amrywiaeth eang o adnoddau addysgu ac ymchwil ar astudiaethau cyfieithu yng Nghymru. Bydd y wefan, fydd yn cael ei lansio yn y gynhadledd ym mis Medi, yn cael ei chadw ar weinydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2012