Helpu cwmni lleol sydd wedi datblygu ac ennill y farchnad ar gyfer cynnyrch awyr agored
Rhyw ddegawd yn ôl, yr hyn oedd ar gael i fynyddwyr, pobol yn teithio i wledydd efo tywydd eithafol o oer, neu yn wir, unrhyw un a oedd yn ymgymryd â gweithgareddau awyr agored i’w ddefnyddio mewn argyfwng oedd bagiau ‘bivvy’ polythen neu 'flanced ofod'. Mae'r rhain, ar y gorau, yn darparu haen ychwanegol yn erbyn dŵr a gwynt.
Bellach, diolch i ddatblygiad Reflexcell ™, mae cwmni Blizzard Protection Systems Cyf, sydd wedi’i leoli ym Methesda, yn arwain y farchnad mewn cynnyrch sy’n helpu pobol i oroesi yn yr awyr agored. Mae’r cwmni, sydd wedi ennill gwobrwyon, yn allforio o amgylch y byd. Ymhlith eu cwsmeriaid mae lluoedd arfog Yr Unol Daleithiau, Awstralia, Y Ffindir, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd a Norwy, Yr Heddlu Norwyaidd, Timau Achub Mynydd RAF, Ambiwlans Awyr Y Swistir ac asiantaethau cymorth trychineb yn ogystal â'r farchnad hamdden awyr agored.
Mae'r cwmni wedi tyfu o fod yn 'ddiwydiant bwthyn' i arwain y byd yn ei farchnad, gyda phencadlys y cwmni ym Methesda bellach yn cyflogi 23 o bobl a throsiant o £2.5 miliwn eleni.
Roedd Rheolwr Cyfarwyddwr y cwmni ac entrepreneur a ddyfeisydd, Derek Ryden, yn ymwybodol fod ganddo gynnyrch da. Fodd bynnag, mae cydweithio efo arbenigwyr yn Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alluogi i werthfawrogi’n union pa mor effeithlon ydy’r cynnyrch mewn gwirionedd. Mae’r wybodaeth wedi bod o fudd i’r cwmni marchnata’u cynnyrch yn fwy effeithiol.
Drwy gydweithio efo Dr Sam Oliver a Jenny Brierley, myfyrwraig PhD yng Ngrŵp Ymchwil Eithafion yr Ysgol, mae Derek wedi comisiynu ymchwil sy'n mesur yn union pa mor effeithiol yw'r deunydd arloesol wrth gyfeirio gwres sy’n dianc o’r corff yn ôl at y corff, gan atal neu ohirio datblygiad hypothermia mewn tywydd eithafol.
"Mae rhaid i’n cynnyrch weithio dan amodau anrhagweladwy. Rydym wedi cael adroddiadau am ba mor dda maent wedi gweithio o dan amodau eithafol, ond nid yw'r rhain yn darparu data dilys. Drwy weithio'n agos efo gwyddonwyr y Brifysgol rydym wedi cynllunio arbrofion i ddarparu data gwyddonol i ddilysu effeithiolrwydd ein cynnyrch," esboniodd Derek Ryden.
"Mae ymchwilwyr y Brifysgol yn gallu dylunio pethau'n llawer mwy gwyddonol- unwaith mae’r ymchwil wedi’i gyhoeddi, mae ar gael i eraill, ac i gwmnïau eraill mesur eu cynnyrch eu hunain yn ei herbyn," ychwanegodd.
Penodwyd Jenny Brierley myfyriwr ôl-raddedig i brosiect arbennig PhD, lle mae'n cynnal ymchwil a gynlluniwyd gan y cwmni a'r Brifysgol. Mae darn mawr o waith ymchwil a gwblhawyd yn ddiweddar wedi dangos bod manteision i gynnyrch Blizzard Protection Survival Products dros fagiau polythen traddodiadol.
"Roedd yn hen bryd gwneud yr ymchwil. Mae pobl wedi bod yn holi ni am fanylion -ac mae cael y wybodaeth wedi bod o gymorth mawr gyda'n marchnata a gwerthiannau. Heb gael at arbenigedd o fewn y Brifysgol drwy'r rhaglen KESS, ni fyddem wedi gallu fforddio'r costau llawn ymchwil o'r fath," meddai Derek Ryden.
Cynhaliwyd yr ymchwil gyda Phrifysgol Bangor o dan raglen KESS (Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth). Nod KESS yw darparu i ddiwydiannau’r cymorth maent eu hangen i dyfu. Mae'r rhaglen hefyd yn darparu hyfforddiant ymchwil ac addysg ôl-raddedig mewn maes arbenigol i fyfyriwr, sydd wedyn wedi sgiliau gwerthfawr a gwybodaeth.
Graddiodd Jenny Brierley gyda gradd mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Bangor yn 2009, ac enillodd Ysgoloriaeth PhD KESS.
"Rwyf wedi cael cyfleoedd gwych drwy’r Ysgoloriaeth, nid yn unig i gynnal ymchwil, ond hefyd rwyf wedi cael cyswllt un i un gyda Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni byd-eang a chyfleoedd megis siarad am yr ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol. Mae'r ymchwil ei hun hefyd yn rhoi cyfleoedd ymchwil pellach i fyfyrwyr israddedig a MSc ym Mangor.
"Allai’m dweud be dwi eisio gwneud nesaf, a phwy a ŵyr pa gyfleoedd arall fydd yn codi. Mae ’na gymaint o feysydd mae gen i ddiddordeb ynddynt, ond byddwn yn sicr yn hoffi gwneud mwy o waith profi cynnyrch a’u heffaith ar berfformiad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2011