Her Beicio o Flaenafon i Fangor i Ddau o’r Cymoedd
Mae dau gyfaill o ardal Pont-y-pŵl yn paratoi at daith feicio sylweddol a chaled o 450 milltir er budd Ymchwil Canser Cymru.
Bydd Andrew Graham Jones, 23, o Abersychan, a Neil Robert Arthur, 23, o Dalywain yn dechrau ar eu hantur ar 19 Awst, gan gychwyn o Flaenafon, Gwent. Gobeithia’r ddau orffen eu her mewn pum niwrnod a chyrraedd Bangor ar 23 Awst.
Gwelwyd bod tad Andrew yn dioddef o ganser y coluddion yn 2010 drwy becyn sgrinio a anfonwyd gan Sgrinio Coluddion Cymru. Yn ei achos ef canfuwyd y salwch yn ddigon buan a chafodd driniaeth lwyddiannus. Fe wnaeth hyn ysbrydoli Andrew i osod sialens bersonol galed iddo’i hun a chodi arian at Ymchwil Canser Cymru.
Gan y bydd Andrew’n cofrestru ar radd uwch mewn Cyfraith Ryngwladol ym Mhrifysgol Bangor ym Medi roedd dilyn llwybrau beicio ar hyd yr arfordir i Fangor yn ymddangos yn her briodol iawn.
Meddai Andrew wrth edrych ymlaen at y profiad:
“Fe wnes i ddewis Ymchwil Canser Cymru, oherwydd heb elusennau canser ni fyddai fy nhad yn fyw rŵan ac roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhai wnaeth helpu i achub ei fywyd.
Rhan galetaf y daith fydd gwthio ein hunain i wneud 100 milltir y dydd. Mae gwneud hynny unwaith yn dipyn o sialens, ond bydd gwthio ein hunain yn ddigon caled i gyflawni hynny ddiwrnod ar ôl diwrnod yn dipyn o beth.
Dwi’n edrych ymlaen at astudio ym Mangor. Roedd gen i sawl rheswm dros ddewis Bangor. Yn gyntaf, mae gan y Brifysgol enw rhagorol ac roedd y bri sydd ar Ysgol y Gyfraith yno yn ei wneud yn ddewis deniadol iawn. Fe wnaeth un o’m ffrindiau agosaf wneud ei radd gyntaf ym Mangor ac mae’n dal yno yn gorffen PhD mewn Seicoleg. Mae o wedi canmol y Brifysgol yn fawr iawn bob amser ac mae’r ddau ohonom yn edrych ymlaen at flwyddyn yno gyda’n gilydd.”
Dydi Neil erioed wedi gwneud unrhyw beth ar y raddfa yma o’r blaen. Eto cytunodd heb betruso ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at gyflawni rhywbeth mor arbennig, fel y dywedodd:
“Mae canser yn effeithio ar gymaint o fywydau. Mae’n debygol iawn bod y rhan fwyaf o bobl wedi dod i gysylltiad â’r salwch mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Dydi Andrew a finnau ddim yn eithriadau; rydym wedi gweld teulu agos, ffrindiau a chydweithwyr yn brwydro yn erbyn y salwch enbyd yma a’i ganlyniadau. Ar y llaw arall, rydym wedi gweld hefyd garedigrwydd, cefnogaeth a thrugaredd y rhai sydd wedi dewis ymroi i helpu’r rhai sydd mewn angen ac mae’n bryd gwneud ychydig bach i’w helpu hwythau!”
I ddangos eich cefnogaeth, dilynwch hwy ar facebook neu i gyfrannu, ewch i justgiving.com/BikingBlaenavonToBangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2012