Her Ddiwylliannol 2014
Yn ddiweddar bu Prifysgol Bangor yn dathlu cydweithio ac amrywiaeth ddiwylliannol gyda'r Her Ddiwylliannol llawn gweithgareddau a gynhelir bob blwyddyn.
Mae'r Her Ddiwylliannol, a drefnir gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol mewn partneriaeth â Chanolfan Confucius Bangor, yn ffordd wych i fyfyrwyr Bangor o wahanol gefndiroedd a gwledydd i gyfarfod, gwneud ffrindiau newydd a gweithio gyda'i gilydd fel tîm i gystadlu am y wobr gyntaf o fynd ar daith unwaith am oes i Tsieina.
Roedd naw tîm yn cystadlu eleni; rhan gyntaf yr Her oedd canfod ffordd greadigol o gyflwyno diwylliant un neu fwy o wledydd brodorol aelodau'r tîm i banel o chwe beirniad. Yn yr ail ran o'r Her roedd rhaid i'r timau ateb cwestiynau am faterion yn ymwneud â Chymru, y DU a Tsieina.
Y beirniaid eleni oedd Dr David Joyner, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Confucius Bangor; Alan Edwards, Cefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol; Gwenan Hine, Uwch Gofrestrydd Cynorthwyol; Nick Parker, Swyddfa IELTS; Fiona Watkins, Neuaddau Preswyl a Shân Rees Roberts, Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata.
Y tîm buddugol oedd Zahirah Mohamad Khimani, 26 oed, o Bakistan sy'n astudio am MSc Niwroseicoleg Clinigol; Zhang Qihrili, 19 oed o Tsieina sy'n astudio Cyfrifeg a Bancio; Abigail Price, 24 oed, o Gymru, myfyriwr PhD Dwyieithrwydd ac Wai Yu Cheung, 22 oed, o Hong Kong sy'n astudio am MSc Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol.
Gan ddisgrifio eu cyflwyniad, meddai Abigail, "Roeddem eisiau edrych ar yr hyn sy'n uno ein diwylliannau, yn hytrach na phwysleisio'r gwahaniaethau. Roedd ein cyflwyniad yn seiliedig ar y diwylliant te byd-eang, ac yn tynnu sylw at y ffaith er bod gwahaniaethau diwylliannau enfawr ledled y byd, gall y weithred syml o rannu cwpaned o de fod yn weithred o gysur a all godi uwchlaw'r gwahaniaethau hyn."
Nid oedd aelodau'r tîm wedi cyfarfod â’i gilydd cyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, ond yn ystod y broses o baratoi i'r her maent wedi dysgu am ddiwylliannau ei gilydd ac wedi gwneud ffrindiau am oes.
Roedd Zahirach yn arbennig o falch eu bod wedi ennill, meddai, "Penderfynais gystadlu yn yr Her Ddiwylliannol er mwyn ymwneud mwy â'r brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Dywedodd Zhan, "Gan fy mod yn dod o Tsieina, roeddwn yn awyddus iawn i roi'r cyfle i bobl eraill ddysgu am y diwylliant Tsieinëeg, a hefyd fel y gallwn ddysgu mwy am ddiwylliannau gwahanol fy nghyd fyfyrwyr."
Meddai Wai, “Mae wedi bod yn brofiad gwych, rwyf wedi dysgu gymaint gan aelodau eraill y tîm am wahanol ddiwylliannau."
Meddai Dr David Joyner, "Roedd y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn falch i noddi'r digwyddiad pwysig hwn. Roedd gweithio gyda'i gilydd mewn diwrnod heriol ond llawn hwyl fel yr Her Ddiwylliannol yn un o'r ffyrdd gorau i feithrin dealltwriaeth am y byd sy'n brofiad gwerthfawr i'n myfyrwyr ac rwyf yn siŵr y bydd y cysylltiadau a wnaed drwy'r grwpiau yn parhau."
Mae'r Sefydliad Confucius yn fodd o sicrhau dealltwriaeth a chydweithio rhwng gogledd Cymru a Tsieina, ac mae'n rhan o rwydwaith byd-eang o dros 400 o sefydliadau. Fe'i sefydlwyd ym mis Medi 2013 mewn partneriaeth ag un o brifysgolion gorau Tsieina, y China University of Political Science and Law, ac mae'r Sefydliad Confucius yn darparu cyrsiau Mandarin ac yn hyrwyddo'r cyfnewid diwylliannol rhwng Tsieina a Chymru ar raddfa eang ym mhob rhan o’r rhanbarth
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2014