Her Ddiwylliannol 2016
Bu myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol a chydweithio ar ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr gyda Her Ddiwylliannol llawn gweithgareddau!
Cafwyd deg o dimau yn cynnwys 1 myfyriwr o Brydain a 3 myfyriwr rhyngwladol yn cystadlu yn yr Her Ddiwylliannol, a drefnwyd gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, gyda rownd o gyflwyniadau a chwis gwybodaeth gyffredinol i ennill gwobr gyntaf o daith fythgofiadwy i Barcelona!
Yn hanner cyntaf y gystadleuaeth holwyd 35 o gwestiynau gwybodaeth gyffredinol i'r 10 tîm ar gategorïau Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop ynghyd â rownd Wyddonol, a dilynwyd hynny gan rownd o luniau (enwi darluniau ac enwogion). Ydych chi'n chwilfrydig am y math o gwestiynau a ofynnwyd? Cymerwch brawf gyda'r 2 gwestiwn yma o Gwis yr Her Ddiwylliannol: 1. Pwy oedd tywysog sofran olaf Cymru cyn ei goresgyn gan Edward I o Loegr yn 1282 a) Edwyn ap Gwriad ; b) Bleddyn ap Cynfyn; c) Llywelyn ap Gruffudd - 2. Mae'r Seren a'r Cilgant yn brif symbol baneri nifer o wledydd. A ellwch chi enwi 2 ohonynt? Gwelwch yr atebion isod.
Yn dilyn egwyl fer am ginio, cafwyd ail hanner y gystadleuaeth, yn cynnwys cyflwyniadau. Gofynnwyd i'r timau ganfod ffordd greadigol o gyflwyno diwylliant un neu fwy o wledydd brodorol aelodau'r tîm i banel o chwech o feirniaid, ac yn y digwyddiad traddodwyd y cyflwyniadau ar lwyfan. Eleni marciwyd y cyflwyniadau ar sail Cynnwys a Chyflwyniad gan amrywiaeth eang o staff y Brifysgol: Noor Al-Zubaidi (Canolfan Addysg Ryngwladol); Melanie Brown (Ysgol Busnes); Matt Day (Undeb Bangor); Dr. Ama Eyo (Ysgol y Gyfraith); Yasmin Noorani (Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau) a Dr Sarah Pogoda (Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern).
Gwelsom berfformiadau gwych oedd yn cynnwys dawnsio, cerddoriaeth fyw, theatr a blasu bwyd o Japan a Nigeria! Cafwyd ymdrech ragorol gan bawb i roi cyflwyniadau difyr a gwnaethant yn arbennig o dda! Llongyfarchwyd enillwyr yr ail a'r drydedd wobr (Ninjas Prifysgol Bangor a'r Tea Frog Mafia) a chyflwynwyd talebau ar-lein EthicalSuperstore iddynt o a ellir eu gwario ar nwyddau Masnach Deg, nwyddau Organaidd a nwyddau Ecogyfeillgar o'u dewis. Mewn cystadleuaeth agos iawn, yr enillwyr oedd Team Team: Sanjitha Nalli o India, Methavee Chaloeyjitr a Norramon Tengcharoensuk o Wlad Thai a Jack McCaffrey o'r Deyrnas Unedig. Gwnaethant ganolbwyntio eu perfformiad ar gomedi ar draws diwylliannau a sut mae traddodiadau a stereoteipiau yn cael eu portreadu trwy gyfrwng jôcs a nodweddion diwylliannol yng ngwledydd cartref aelodau'r timau.
Bydd y tîm buddugol yn teithio i Farcelona yn ystod wythnos gyntaf Ebrill 2017 am daith a fydd yn llawn hanes, diwylliant, iaith, pensaernïaeth fodernaidd a hwyl! Bydd tywysydd lleol sydd ag angerdd mawr dros Barcelona, Marcel Clusa, Swyddog Clerigol presennol y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, yn eu harwain yno. I weld lluniau a straeon am eu hanturiaethau yng Nghatalonia, dilynwch Bangorinternational ar Instagram.
Hoffai'r tîm trefnu ddiolch yn fawr i'r panel a'r cyfranwyr am eu hagwedd bositif, eu brwdfrydedd ac am roi gwers fawr i bawb ar sut y gall nifer o wledydd gydweithio fel un i greu pethau hardd a phwerus gyda'i gilydd.
Nadolig Llawen,
Y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
**
Atebion:
1- c) Llywelyn ap Gruffudd
2- Twrci, Algeria, Tunisia, Libya, Mauritania, Gweriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi, Gogledd Cyprus, Malaysia, Pacistan, Azerbaijan. Baneri gyda Chilgant a sêr lluosog: Turkmenistan, Uzbekistan, Ynys Cocos, Comoros, Singapore.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2016