Her Ddiwylliannol
Dathlodd myfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor amrywiaeth a chydweithio diwylliannol yn ddiweddar (Sadwrn 3.03.12) gyda Her Ddiwylliannol llawn hwyl a chyffro. Trefnwyd y gystadleuaeth gan gymdeithas myfyrwyr Tsieineaidd Bangor (CSSA) a’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Roedd chwe thîm o ddau fyfyriwr o Tsieina a dau fyfyriwr rhyngwladol arall yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rownd o gyflwyniadau a chwis gwybodaeth gyffredinol.
Gofynnwyd i’r timau ddarganfod ffordd greadigol o gyflwyno diwylliant un neu fwy o wledydd cartref aelodau’r tîm o flaen panel o bum beirniad. Temtiwyd y beirniaid Alan Edwards (Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol), David Andrews (ELCOS), Andrew Griffith (Canolfan Addysg Ryngwladol), Sarah Wale (Ysgol Busnes) a Shân Rees Roberts (Marchnata) gan ddetholiad blasus o wahanol fwydydd o Tsieina, Korea a’r Eidal. Gwisgodd tîm arall fel tywysogion a thywysogesau o’u gwledydd cartref a chyflwyno trafodaeth o rinweddau diwylliannol eu tiriogaethau.
Yn yr ail rownd, dangoswyd cyfres o faneri i’r ymgeiswyr a gofynnwyd iddynt enwi o ba wlad y daeth pob un. Yna, gofynnwyd cwestiynau gwybodaeth gyffredinol iddynt ynglŷn â diwylliant, byd chwaraeon, daearyddiaeth, iaith, crefydd, prif atyniadau, pobl enwog a hanes gwahanol wledydd ar hyd a lled y byd.
Enillwyr y gystadleuaeth o drwch blewyn oedd Jin Hao a Liu Xin o Tsieina, Mauro Marchei o’r Eidal a Yueun Chung o Korea. Dechreuodd y tîm y gystadleuaeth drwy gyflwyno’r geiriau “diwylliant” a “chyfeillgarwch” yn eu mamieithoedd. Yna, mewn gwisg draddodiadol, siaradodd pob aelod o’r tîm am draddodiadau a diwylliant mamwlad aelod arall o’r tîm. Y wobr oedd ad-daliad o’r costau llawn ar gyfer taith dwy noson i Gaerdydd, lle y byddent yn cael cyfle i ymweld â’r Senedd a chyfarfod â’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Prifysgol Bangor. Byddent hefyd yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan a rhai o atyniadau hudolus y brif ddinas. Rhoddwyd taleb Amazon gwerth £20 i bob aelod o’r tîm a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth a thalebau gwerth £10 i’r tîm yn y trydydd safle.
Dywedodd Pennaeth Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Alan Edwards am y digwyddiad: “Yn ogystal â bod yn gystadleuaeth hwyliog a bywiog, cafodd ymgeiswyr yr Her Ddiwylliannol y cyfle i ddarganfod mwy am eu gwledydd a’u diwylliannau ei gilydd. Roedd pob cyflwyniad yn ardderchog ac roedd yn amlwg bod y timau wedi gweithio’n galed i’w gwneud yn addysgiadol yn ogystal ag yn llawn hwyl. Rydym yn bwriadu cynnal y gystadleuaeth eto flwyddyn nesaf ac yn gobeithio trwy wneud hyn y bydd mwy o fyfyrwyr o’r gwahanol wledydd y mae myfyrwyr y Brifysgol yn eu cynrychioli’n cymryd rhan.”
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2012