Her Ddiwylliannol ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn gwahodd y cyhoedd i gael blas ar amrywiaeth ddiwylliannol myfyrwyr Bangor a chymryd rhan mewn cwis 'Her Ddiwylliannol'.
Ar 2 Rhagfyr, bydd deg tîm o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cystadlu â'i gilydd am wobrau gwych mewn Her Ddiwylliannol sy'n cynnwys gwobr gyntaf o daith i Beijing.
Mae Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Bangor, sy'n cynnal yr 'Her Ddiwylliannol', yn estyn croeso i chi ddod i weld y gystadleuaeth. Bydd pob tîm o bedwar myfyriwr, a fydd yn cynnwys un myfyriwr o'r DU, un o Tsieina a dau fyfyriwr o genhedloedd eraill, yn traddodi cyflwyniad byr am ddiwylliant un neu fwy o aelodau'r tîm. Mae'r digwyddiad, a gynhelir rhwng 2pm a 6pm yn Neuadd Prichard Jones y Brifysgol, yn rhad ac am ddim, a bydd croeso i aelodau'r gynulleidfa gymryd rhan mewn cwis cwestiynau chwim. Bydd pob taflen gwis a gwblheir yn mynd i het raffl gyda chyfle i ennill talebau Amazon.
Bydd yr Her Ddiwylliannol yn gyfle gwych i ddysgu am yr amrywiaeth eang o ddiwylliannau sydd gennym ym Mhrifysgol Bangor. Dewch i gefnogi'r timau ac i gymryd rhan yn y cwis! Bydd adloniant a lluniaeth ysgafn ar gael am ddim. Cefnogir y digwyddiad gan Sefydliad Confucius.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2015