Her i fyfyrwyr: Gwneud i bobl wirioni ar eich ymchwil….mewn tri munud
Gwneud i bobl wirioni ar eich ymchwil….mewn tri munud - Dyna’n union a wnaeth grŵp o fyfyrwyr PhD o bob cwr o Gymru mewn digwyddiad gwobrwyo ym Mhrifysgol Bangor ar Fehefin 16. Cynhaliwyd y digwyddiad i gydnabod effaith yr ymchwil doethurol cydweithredol sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â busnesau ar draws Cymru fel rhan o raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a’r sgiliau menter sy’n cael eu datblygu o ganlyniad i’r rhaglen. Daeth cynrychiolwyr ynghyd o brifysgolion Bangor, Abertawe, Caerdydd a Metropolitan Abertawe, yn ogystal â rhai o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil. Yn ogystal â chynnig cyfle i ymchwilwyr a phobl busnes o bob disgyblaeth a sector i rwydweithio â’i gilydd, cafwyd anerchiad pwysig gan Paul Sandham, Rheolwr Gyfarwyddwr GeoSho Limited ar thema cydweithio yn y brifysgol a dathlu llwyddiant y myfyrwyr oedd wedi cwblhau eu graddau ymchwil o dan raglen KESS yn 2011. Yn ganolog i’r digwyddiad cafwyd cystadleuaeth Cymru gyfan oedd yn herio myfyrwyr o bob cwr o’r wlad i gyflwyno eu hymchwil mewn ffordd atyniadol a hynny o dan bwysau aruthrol .
Roedd y gystadleuaeth yn seiliedig ar egwyddor Pecha Kucha, sef cyflwyniadau chwim o fewn cyfyngiadau amser, ond gofynnwyd i fyfyrwyr ar y rhaglen KESS fynd gam ymhellach, sef cyflwyno eu hymchwil PhD yn effeithiol mewn 6 sleid gan roi 30 eiliad i i bob sleid. Cyfanswm o dri munud yn unig i ddylanwadu ar gynulleidfa o academyddion, busnesau a myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau. Fe wnaeth pob un o’r pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac a gyflwynodd ar y noson olaf ymateb i’r her a chyflwyno’n wych gan ennill clod y gynulleidfa am eu perfformiadau hyderus.
Yr enillydd yn y pen draw, a roddodd gyflwyniad oedd yn cynnwys cyfeiriadau at y grŵp roc The Killers yn ogystal ag at ei nain, oedd James Evans, myfyriwr PhD ail flwyddyn o Gaerdydd a ddefnyddiodd ei dri munud i draethu ar y cwestiwn “Ai bodau dynol ynteu facteria ydym ni?!” Mae James yn ennill gweithdy ysgrifennu ar gyfer busnes, amser cwmni ymgynghori dylunio i’w helpu ef a’i bartner i fireinio cyflwyniad y project ymchwil, a diwrnod adeiladu tîm i’r partneriaid yn y project.
Meddai Bryn Jones, Rheolwr Project KESS, “Mae’n siŵr mai hwn yw’r cyflwyniad anoddaf bydd gofyn i’r myfyrwyr hyn ei wneud byth, ac maent wedi rhagori heno. Fydd yr un cyflwyniad arall yn straen arnynt ar ôl hwn’.
Aeth yn ei flaen i bwysleisio nod difrifol y gystadleuaeth. Meddai, “rydym yn ymwybodol iawn ym myd masnach nad y syniad gorau sy’n cael ei ddatblygu bob tro ond yn hytrach y syniad sy’n cael ei gyflwyno a’i gyfathrebu orau. Trwy raglen KESS rydym yn dymuno arfogi ein myfyrwyr ymchwil â sgiliau ymchwil rhagorol ond hefyd â’r gallu i sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n effeithiol ac yn argyhoeddiadol gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac o dan wahanol fathau o bwysau.”
Cafwyd adborth rhagorol gan y myfyrwyr a gymerodd ran a hefyd gan y rhai eraill oedd yn bresennol ac mae cynlluniau ar y gweill yn awr i drefnu digwyddiad tebyg ond ar raddfa fwy'r flwyddyn nesaf gyda phob un o’r naw prifysgol yn rhaglen KESS yn cymryd rhan. Mae’r effaith ar agwedd a gallu’r myfyrwyr yn amlwg ac meddai’r enillydd James Evans,
“Credaf fod y digwyddiad rhwydweithio KESS yn arddangos cyfoeth ac ehangder yr ymchwil ar draws Cymru ac yn annog cydweithredu ar draws sefydliadau. Roedd y digwyddiad hefyd yn dangos pa mor bwysig ydi hi bod prifysgolion a busnesau bach a chanolig yn gweithio gyda’i gilydd ac yn dangos y gellir gwneud amrywiaeth eang o brojectau. Byddwn yn annog myfyrwyr, goruchwylwyr a phartneriaid cwmni yn y rhaglen KESS i ddod y flwyddyn nesaf oherwydd rydych chi’n siŵr o gael budd ohono. Dw i’n gwybod i mi wneud .”
Menter sgiliau uwch Cymru Gyfan yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2011