Her Weiren Wib Tîm Cemeg i godi arian i Dŷ Gobaith
Aeth tîm o Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor i chwilio am wefr ar y weiren wib yn ddiweddar er mwyn codi arian at hosbis plant Tŷ Gobaith. Roedd y tîm dewr a wynebodd her y weiren a'r tywydd i godi arian at elusen leol yn cynnwys israddedigion, myfyrwyr ôl-radd a doethuriaeth, a staff academaidd a gweinyddol yr ysgol.
Mae'r Weiren Wib a agorwyd yn ddiweddar yn croesi uwchben Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Y ddwy weiren yw'r rhai hiraf a'r ail hiraf yn Ewrop. Oherwydd gwyntoedd cryfion 45 milltir yr awr a'r glaw trwm dim ond rhan gyntaf yr her, sef y weiren leiaf, a wnaed gan y tîm ar y diwrnod. Ond cawsant fynd yn ôl yn rhad ac am ddim ar ddiwrnod arall i gwblhau rhan olaf a hiraf yr her, sef y weiren fawr filltir o hyd a all gyrraedd cyflymder o dros 90 milltir yr awr.
Meddai Dr Mike Beckett, Pennaeth yr Ysgol Cemeg,
"Dwi ddim yn siŵr sut llwyddodd y tîm yn y swyddfa i fy argyhoeddi bod hwn yn syniad da! Dwi ddim yn hoff iawn o uchder a gyda'r gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm roedd mynd ar y weiren fach yn gamp ynddo'i hun. Diolch yn fawr iawn i dîm Gwlad Zip Eryri a ofalodd amdanom mor dda, gwnaed pob un o'r gwiriadau diogelwch yn hollol drylwyr a oedd o gymorth i'r rhai ohonom oedd yn nerfus am wneud yr her.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i berchnogion y weiren wib am adael i ni gwblhau'r her ar ddiwrnod arall yn rhad ac am ddim a hefyd am eu proffesiynoldeb a'u cymorth wrth drefnu ac ymgymryd â'r her. Roedd gweithwyr y weiren wib yn wych."
Mae'r tîm eisoes wedi llwyddo i godi dros £1,200.
Os hoffech gyfrannu at yr elusen deilwng hon ewch i dudalen Just Giving y tîm Cemeg: http://www.justgiving.com/ChemistryZipWireChallenge
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2013