Her y Stryd Fawr i Fyfyrwyr Mentrus
Gosodwyd y cefndir ar gyfer Menter drwy Ddylunio 2016 gan y galw cynyddol i drawsffurfio profiad y stryd fawr.
Mae'r gystadleuaeth, sydd â gwobr ariannol o £5,000, yn dod ag unigolion o ddisgyblaethau academaidd amrywiol ym Mhrifysgol Bangor at ei gilydd i weithio fel timau i ddatrys briff dylunio yn y byd go iawn a roddir ger bron gan bartner masnachol lleol; eleni Cyngor Dinas Bangor.
Roedd sut allai'r Stryd Fawr addasu i gwrdd ag anghenion heriol y cwsmeriaid yn rhoi digon i'r 60 o fyfyrwyr a gymerodd ran feddwl amdano yn ystod y broses a barodd wyth wythnos. Cynhwysai'r ystyriaethau gydweithredu rhwng mân-werthwyr a gyda'r gymuned leol yn ogystal ag integreiddio sianelau ar-lein ac oddi ar-lein, harneisio technoleg i wneud siopa'n haws, yn gyflymach ac yn fwy personol. Er mai ar Stryd Fawr Bangor yr oedd y canolbwynt mae hefyd yn amlwg iawn yn gymwys ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.
Yn y llun hwn mae tîm 'Innovation' a enillodd y wobr gyntaf yn y rownd derfynol gyda'u syniad i ailennyn diddordeb yn y Stryd Fawr drwy gyfrwng ap symudol rhyngweithiol. Mae’n anelu at greu cyswllt rhwng y bobl a'u hanes.
Wrth sôn am y syniad buddugol, dywedodd Haydn Davies, beirniad Menter trwy Ddylunio a Chadeirydd Fforwm Fusnes Bangor, 'Mae gan y syniad y potensial i drawsnewid y Stryd Fawr drwy ddenu cwsmeriaid gwahanol a fydd, ynddo ei hun yn ffordd o ddenu rhagor o bobl ac o ysgogi busnes. Fe fyddwn yn gweld Bangor mewn goleuni gwahanol os bydd hyn yn dwyn ffrwyth'
Bu i un ar ddeg o hwyluswyr ôl-radd weithio ochr yn ochr â'r timau er mwyn eu hannog wrth ddatblygu eu syniadau. Mae Rhi Willmot wedi cymryd rhan mewn Menter drwy Ddylunio ddwywaith fel hwylusydd, a hefyd wedi cymryd rhan yn Elop, rhaglen amlddisgyblaethol ac amlddiwylliannol ym Mecsico yn gynharach eleni. Dywedodd Rhi “mae profiadau amlddisgyblaethol mor werthfawr am eu bod yn agor ffordd hollol newydd o feddwl ichi, drwy rannu persbectifau gwahanol gydag aelodau eraill eich tîm. Mae hi wedi bod yn anhygoel imi gymryd rhan yn Elop a Menter drwy Ddylunio am eu bod yn brofiadau mor unigryw ac iachus sydd wedi chwyldroi'n llwyr y ffordd y byddaf yn meddwl."
Mae Benjamin Simmonds yn fyfyriwr busnes blwyddyn gyntaf sy'n cymryd rhan a dyma a ddywedodd yntau am y profiad ‘Mae Menter drwy Ddylunio wedi rhoi'r gallu imi weld problem o safbwynt rhywun arall ac wedi gwneud cymryd penderfyniadau fel tîm yn haws. 'Yn y dyfodol fy nod yw dod â disgyblaethau eraill i mewn i fy aseiniadau.'
Dywedodd Nia Hogarth, myfyriwr Dylunio Cynnyrch sydd yn ei thrydedd flwyddyn o'r profiad 'Mae wedi fy ngwneud yn fwy gwerthfawrogol o fy nghwrs ac yn fwy hyderus yn fy ngallu.'
Dywedodd yr hwylusydd ôl-radd Jac Parry hyn am ei brofiad 'Credaf fod y broses Menter drwy Ddylunio yn newid y gêm o safbwynt dylunio. Mae'r fantais o gael tîm amlddisgyblaeth yn amlwg yn fwy na chael tîm o un ddisgyblaeth. Oherwydd hyn mae fy mhroject ymchwil wedi agor allan i feysydd ehangach yn amrywio o Bwnio mewn Seicoleg i strwythurau busnesau bach a chanolig mewn rheoli busnes,
Allwn i ddim argymell yr her arloesol a chyfoethog hon ddim mwy, ac felly rhowch fy enw i lawr ar gyfer y flwyddyn nesaf!’
Cynhaliwyd y broses yn lleoliadau newydd ac urddasol Arloesi Pontio. Fel porth newydd i fusnesau allu cael gafael ar yr arbenigedd a'r cyfleusterau sydd gan y brifysgol, roedd Arloesi Pontio yn lle addas i'r sialens hon roedd y diwydiant yn ei harwain. Fel gweithgaredd canolog ar gyfer y ganolfan, mae Menter drwy Ddylunio yn cynnig ffordd i ddysgu myfyrwyr am fenter gan ddwyn academyddion ynghyd o ddisgyblaethau gwahanol i weithio ar brosiectau masnachol cydweithredol. Mae pob wythnos o'r cwrs yn cymryd safbwynt gwahanol, lle mae disgyblaethau unigol yn eu tro'n cael amlygrwydd. Mae'r cydweithio amlddisgyblaethol hwn a'r dull o fynd ati drwy ddylunio, gyda chyfraniad gan arbenigwyr, yn creu amgylchedd lle gall meddwl arloesol ffynnu ac roedd hyn yn amlwg yn y cynigion terfynol a'r arddangosfa.
Dywedodd Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio "Mae Menter drwy Ddylunio ac Arloesi Pontio gyda'i gilydd yn cynnig ffordd newydd i fusnesau a Phrifysgol Bangor gydweithio ar ddatrys problemau cymhleth. Mae busnesau yn cynnig heriau sy'n cael eu bwydo gan ystyriaethau yn y byd go iawn; mae Academyddion yn cynnig gwybodaeth a disgyblaeth arbenigol i gefnogi gwneud penderfyniadau; ac mae myfyrwyr yn cynnig llygaid newydd a chreadigrwydd wrth ymateb i'r her, a drwy gymhwyso'r wybodaeth sy ganddyn nhw’n ymarferol, maen nhw'n datblygu sgiliau sydd eu hangen i'w bywydau gwaith yn y dyfodol. Mae pawb ar eu hennill. Ac mae'n llawer iawn o hwyl.
Yr arbenigwyr academaidd a gyfrannodd oed Dr Iestyn Pierce o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Dr John Parkinson o Seicoleg, Dr Siwan Mitchelmore o'r Ysgol Busnes, Dr Steffan Thomas o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Dewi Rowlands, Aled Williams a Peredur Williams o’r cwrs Dylunio Cynnyrch yn yr Ysgol Addysg a Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio. Bu Lowri Owen a Ceri Jones o raglen Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gydlynu’r project, a rhoddodd staff Canolfan Arloesi Pontio gefnogaeth i'r tîm cyfan.
Yr hwyluswyr ôl-radd oedd Rhiannon Wilmott, Kate Isherwood, Sion Edwards, Sam James, Zehra Merve Okhiz, Leon Joseph Gartland, Suita Manuela Diaz Nolasco, Jac Parry, Lucas Michaut, Bukola Adetonwa a Jo Mearman.
I wrando ar y broses Menter drwy Ddylunio'n cael ei hegluro, ewch at:
http: //www.bangor.ac.uk/bangortv/andy_ebd_explained.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2016