Hiliaeth gynhenid mewn systemau credyd banciau yn lleihau mynediad at gredyd i leiafrifoedd ethnig
Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddi adroddiad gan y llywodraeth i hiliaeth yn nulliau banciau Prydain o fenthyca arian, mae ymchwil gan un arbenigwr blaenllaw ym myd bancio'n awgrymu bod hiliaeth yn amlwg iawn, ac yn ymddangos yn gynhenid, yn system fenthyca'r banciau. Honnir hefyd bod hynny wedi bodoli drwy gydol y blynyddoedd o gynnydd yn ogystal ag yn yr argyfyngau ariannol presennol a diweddar.
Yn ôl gwaith gan yr Athro Molyneux o Brifysgol Bangor a chydweithwyr o Ysgol Busnes Prifysgol Hull mae cartrefi pobl dywyll eu croen yn fwy tebygol o beidio â chael credyd defnyddwyr na chartrefi pobl wynion, hyd yn oed os yw eu sefyllfaoedd ariannol yn debyg. Gan ddefnyddio'r un Arolwg Costau Byw a Bwyd, a gasglwyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, fe wnaethant ddatgelu hefyd bod Asiaid yn llai tebygol na phobl wynion o gael benthyciadau banc, tra bod teuluoedd duon yn fwy tebygol o gael eu heithrio o'r farchnad cardiau credyd.
Wrth ysgrifennu yn y cylchgrawn Chartered Banker, mae'r Athro Phil Molyneux o Ysgol Busnes flaenllaw Prifysgol Bangor, yn galw ar y rhai sy'n llunio polisïau i ddatblygu rhai fydd yn lleihau'r anghydraddoldeb sydd i'w weld yn y system. Mae'n dadlau hefyd bod achos cryf dros ystyried deddfwriaeth a fydd yn gwneud yr holl broses yn fwy eglur drwy annog banciau i ddatgelu gwybodaeth ar fenthyca a gweithgareddau ariannol eraill. Mae'n dweud y bydd yr eglurder hwn, ynddo'i hun, yn sicrhau na fydd gwahaniaethu'n digwydd, boed mewn gwledydd datblygedig neu rai sy'n datblygu.
Meddai'r Athro Molyneux: "Yn rhyfedd iawn, fe wnaethom sylwi ar gynnydd mewn gwahaniaethu yn ystod y cyfnod llewyrchus rhwng 2004-07, cyfnod pan ddywedid bod banciau wedi llacio eu safonau benthyca. Efallai bod llacio'r safonau credyd wedi digwydd yn achos teuluoedd gwynion yn bennaf ac mae'n debygol bod hynny wedi cynyddu'r bwlch o ran galluogi teuluoedd tywyll eu crwyn i sicrhau credyd."
"Nid yw'r rhesymau dros y gwahaniaethu hiliol yn glir. Efallai eu bod i'w priodoli i hen ragfarnau ymhlith bancwyr wrth wneud penderfyniadau ynghylch rhoi credyd a'r rheini wedi'u cynnwys efallai mewn modelau sgorio credyd. Dyna pam mae angen ailystyried y prosesau hyn a'u gwneud yn eglur fel y gellir eu herio."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2013