Hoffter o ddeifio’n arwain at yrfa newydd
Cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor oedd yr allwedd i Mandy Knott gael ei phenodi i swydd bwysig a diddorol - a’i chyntaf mewn gyrfa newydd.
Mae gan Mandy’r dasg bwysig o weithio ar fesur deddfwriaethol a fydd yn sicrhau rheolaeth a chadwraeth pysgodfa cocos a chregyn gleision Bae Morecambe.
Mae ‘n cysylltu â phawb sydd yn ymwneud â’r bysgodfa ac yn paratoi Gorchymyn Pysgodfa a fydd yn rheoli’r bysgodfa trwy drwyddedu pobol sy’n hel cocos yn y Bae. Mae’n gwneud hyn ar ran Pwyllgor Pysgodfeydd Môr y Gogledd Orllewin, yn Carnforth. Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr yw’r cyrff sy’n gyfrifol am reoli a rheoleiddio’r diwydiant pysgota o gwmpas arfordir gwledydd Prydain.
Tipyn o dasg i Mandy yw hon, ond mae’n un y mae’r cyn hyfforddwr gyrru’n awchu amdani.
“Mae’n gyfnod diddorol i fod yn gweithio i Bwyllgorau Pysgodfeydd Môr. Maent yn derbyn mwy o gyfrifoldebau cadwraethol, felly mae’n gyfnod cynhyrfus i fod yn rhan ohono, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cynnig swydd barhaol,” meddai.
Dechreuodd Mandy ddeifio sgwba yn 1997, heb sylweddoli y byddai’r hobi newydd yn arwain at yrfa newydd. Fel roedd ei diddordeb mewn deifio’n cynyddu, roedd yn gwirfoddoli ar ddeifiau arolygu cadwraethol, a sylweddoli ei bod angen rhagor o wybodaeth.
Dechreuodd arni drwy astudio am radd mewn Bioleg Môr a Rheoli Rhanbarthau Arfordirol, ac roedd yn medru cynnal ei hun drwy roi gwersi gyrru. Ond sylweddolodd Mandy ei bod mewn maes cystadleuol dros ben ac y byddai angen cymhwyster arall i ddod i’r amlwg. Arweiniodd hyn at Radd MSc mewn Diogelu Amgylchedd Môr yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
“Roeddwn wedi cwrdd â phobol a oedd wedi graddio o’r Ysgol trwy fy ngweithgareddau deifio, ac felly roeddwn yn ymwybodol o’r enw da sydd i’r Ysgol.
“Roedd y cwrs yn un cynhwysfawr ac roedd yn rhoi i ni’r holl sgiliau yr oeddem eu hangen, gan ein paratoi ar gyfer amrywiol swyddi yn y maes,” meddai.
Aeth Mandy i Ffair Cyrsiau Ôl-radd, lle cafodd gyfle i drafod y cwrs roedd am astudio, ac i ddod i adnabod cyfarwyddwr y cwrs a gweld yr adnoddau.
“Rhoddodd y Ffair gyfle i mi gwrdd â’r staff a thrafod fy opsiynau wyneb yn wyneb. Cadarnhaodd fy mhenderfyniad i wneud cais,” meddai. Roedd hi hefyd yn awyddus i ddangos ei brwdfrydedd, ac roedd yn ddigon ffodus i ennill lle ar gwrs a oedd yn cael ei gyllido gan NERC, sef Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Cynhelir y Ffair Cyrsiau Ôl-radd nesaf ddydd Gwener 18 Chwefror 2011 rhwng 12.30-2.30. Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad wrth fynd i wefan y Brifysgol: http://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2011