Hollaback! Gwynedd yn ymuno â’r mudiad rhyngwladol yn erbyn aflonyddu ar y stryd! Yn lledu i gymru, yr iseldiroedd ac ar draws Ewrop
23 Ebrill, 2012 (Bangor, Gwynedd) – Mae myfyrwyr ym Mangor wedi ymuno â’r frwydr ryngwladol yn erbyn aflonyddu ar y stryd! Mae Cymdeithas Merched Bangor wedi recriwtio tîm dwyieithog o fyfyrwyr o’r Brifysgol i gydlynu a lansio prosiect newydd sbon yn erbyn aflonyddu ar y stryd yn yr ardal. Hollaback! Gwynedd yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n un o gnwd newydd sy’n cael eu lansio’r wythnos hon ar hyd a lled Gwledydd Prydain.
Dywedodd Jennifer Krase, cadeirydd Cymdeithas Merched Bangor ac arweinydd safle Hollaback! Gwynedd, “Fe wnaethon ni gynnal arolwg aflonyddu ar y stryd o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eleni ac roedd yr ymateb yn anhygoel. Mae lansio Hollaback! Gwynedd yn gyfle i’n cymuned ni ddod ynghyd a rhoi stop ar enghreifftiau cywilyddus ac anghysurus o aflonyddu ar y stryd. Mae’n dwyn gwarth ar enw da Bangor a Gogledd Cymru fel mannau diogel ac rydym yn falch ac yn llawn cynnwrf o gael ymuno â chymuned Hollaback yn y frwydr hon.”
Mae safle Hollaback! Gwynedd yn cael ei gynnal yn lleol gan dîm dwyieithog o wirfoddolwyr. Dim ond un rhan o’r prosiect yw’r wefan; o ganlyniad i arolwg y Gymdeithas Merched mae adroddiad ynghylch aflonyddu ar y stryd ym Mangor yn cael ei baratoi i’w rannu ag arweinwyr a grwpiau cymunedol, y Brifysgol a’r heddlu lleol. Bydd yr argymhellion o’r adroddiad yn anelu i siapio ymateb cymunedol at aflonyddu ar y stryd a chadw Bangor yn fan diogel a chroesawgar ar gyfer ei holl drigolion.
Mae Hollaback! eisoes yn fudiad amryfal ledled y byd, wedi’i arwain yn bennaf gan bobl ifanc a chyda chyfranogiad cryf gan gymunedau LHDT+ a phobl dduon. Yn ogystal â bod yn brosiect dwyieithog o’r cychwyn, bydd Hollaback! Gwynedd yn cynnig platfform i drafod profiadau o aflonyddu ar y stryd ac yn tanseilio’r myth ei fod yn ymddygiad diniwed, ac ar yr un pryd yn datblygu cymuned o actifyddion yn yr ardal sy’n ymroddedig i newid natur y drafodaeth am aflonyddu ar y stryd.
“Nid dim ond apiau a mapiau yw Hollaback! – mae’n fudiad,” dywedodd Samuel Carter, Cadeirydd Bwrdd Hollaback! Mae bellach wedi’i sefydlu mewn 45 dinas ac 16 gwlad, gyda’i arweinwyr yn siarad o leiaf naw iaith.
“Mae twf y mudiad yn arddangos natur gyffredin aflonyddu ar y stryd drwy’r byd,” dywedodd Cydlynydd Mudiad Rhyngwladol Hollbaback, Veronica Pinto. “Ar yr un pryd, mae ymateb actifyddion drwy’r byd yn anhygoel wrth i ni weld penderfyniad pobl sy’n brwydro dros eu diogelwch, yn brwydro dros eu strydoedd, ac yn brwydro am yr hawl i fod yn nhw’u hunain.”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2012