Housing – or Homes? An Introduction to Co Housing, as it could be applied to Gwynedd
Er bod cyd-gartrefu yn gyffredin ar gyfandiroedd Ewrop a gogledd America, dim ond yn lled ddiweddar y mae’r arfer wedi ei mabwysiadu ym Mhrydain. Mae’r rhan fwyaf o enghreifftiau sydd yma ym Mhrydain yn adeiladau newydd, wedi eu hadeiladu’n unswydd gan ddelfrydwyr cefnog gyda’r nod o fod yn neilltuol o effeithiol o ran defnydd ynni.
Ond mae gan y DU domen o dai sydd yn hen ac yn aneffeithiol o ran ynni. Yng Ngwynedd y ceir y rhai hynaf.
Cyflwyniad i gyd- gartrefu a’r modd y gellid ei ddefnyddio yng Ngwynedd yw pwnc sgwrs a drefnir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Chymdeithas Daearyddiaeth y myfyrwyr. Cynhelir Housing or Homes? nos Lun, Tachwedd 21 am 6.00 yn Ystafell g23, Adeilad Thoday y Brifysgol ar Ffordd Deiniol. Mae’r sgwrs am ddim ac ar agor i bawb.
Mae Frances Voelcker wedi ymddeol yn ddiweddar wedi gyrfa fel pensaer. Ffocws ei gwaith cyn iddi ymddeol oedd effeithiolrwydd ynni mewn adeiladau hŷn gyda waliau solet. Mae hi wedi bod yn weithgar dros gynaliadwyedd, ac mae’n arddel ffydd y Crynwyr. Bydd Frances yn cyflwyno’r cysyniad o gyd-gartrefu a chodi’r cwestiwn o sut y gellir ei gymhwyso ar gyfer y stoc dai sydd eisoes yn bodoli.
Meddai Frances; “Gall cyd-gartrefu weddu ar gyfer pobl hŷn sy’n dymuno symud i dai llai o ran maint ond yn dymuno gwneud hynny heb orfod colli ystafell sbâr; pobl o unrhyw oedran sydd yn sengl ac yn teimlo eu bod wedi eu hynysu; rhieni sydd eisiau cefnogaeth rhwydwaith ehangach – yn ogystal â man chwarae awyr agored diogel. Mae’n ymwneud â datblygu cymuned er lles tymor hir pobl a’r blaned. Mae’n ffordd o fyw yn hytrach na ffansi’r funud – a tydi o ddim yn hawdd!”
Esbonia Frances mai’r hyn sydd wedi ei harwain i ymchwilio’r syniad o gyd-gartrefu yw’r cyffelybiaethau rhwng egwyddorion y Crynwyr o gydraddoldeb, heddwch, gwirionedd a chyfiawnder; yr anhawster wrth geisio lleihau ein hôl troed amgylcheddol wrth fyw yn gyfforddus; ac ail ymddangosiad anghyfiawnder tai yn y DU.
Meddai Dr Eifiona Thomas-Lane, Darlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:
“Rydym yn falch o gael croesawu Frances Voelcker i siarad efo ni a’n ysgogi i feddwl am ffyrdd newydd o ddatrys problemau cyfredol yn ymwneud â thai. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfiawnder tai, ein hôl troed amgylcheddol a Thrawsnewid – dewch draw i’r sgwrs a mynegwch eich syniadau!”
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016