HPC Cymru i arwain rhwydwaith HPC Ewropeaidd
Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, gyda chymorth gan Brifysgol Bangor, wedi ei ddyfarnu â grant gan y Comisiwn Ewropeaidd dan raglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd i arwain Rhwydwaith Canolfannau Cymhwysedd HPC Ewrop ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig.
Bydd y Rhwydwaith unigryw’n hyrwyddo mynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol, yn cronni arbenigedd ac adnoddau ledled Ewrop ac yn rhannu arferion gorau o ran defnydd diwydiannol HPC, yn codi ymwybyddiaeth o fanteision HPC ac yn cyfrannu tuag at weithrediad y Strategaeth HPC Ewropeaidd.
Gan ddechrau ar Fehefin 1af 2015, bydd y fenter yn dod â chymysgedd amrywiol o ganolfannau rhagoriaeth cenedlaethol sefydledig a chanolfannau HPC rhanbarthol at ei gilydd ar draws Ewrop, wedi’u sefydlu’n benodedig i hyrwyddo mynediad at HPC ar gyfer diwydiant i ddibenion datblygiad ac adfywiad economaidd.
Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt AC wedi croesawu’r llwyddiant:
“Horizon 2020 yw rhaglen ymchwil ac arloesi mwyaf Ewrop, sy’n werth bron i €80 biliwn ar draws rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd i gynhyrchu gwyddoniaeth o safon byd, arweinyddiaeth ddiwydiannol a phartneriaethau sy’n fasnachol lwyddiannus, ac mae’n cynnig cyfleoedd ardderchog i Gymru wella ei henw da yn y byd.
“Rwy’n hynod falch fod yr Undeb Ewropeaidd wedi buddsoddi cyllid Horizon 2020 i HPC Cymru arwain, gyda Phrifysgolion Cymreig a phartneriaid Ewropeaidd eraill, rhwydwaith o arbenigedd ac arloesi o fewn y maes uwchgyfrifiadura, a hynny yn ei dro’n chwarae rhan bwysig yn cefnogi twf Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd.”
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae HPC Cymru â hanes cadarn o ddarparu BBaCh â mynediad at wasanaethau HPC. Mae HPC Cymru, sy’n gofalu am rwydwaith uwchgyfrifiadura wasgaredig fwyaf y Deyrnas Unedig, yn darparu academyddion a busnesau â mynediad at gyfleusterau uwchgyfrifiadura o safon byd ynghyd â’r hyfforddiant a’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol i fanteisio’n llawn arno.
Mae’r cwmni eisoes wedi cynorthwyo mwy na 220 o fentrau, wedi sefydlu mwy na 110 o gydweithrediadau diwydiant-academia ac wedi denu’n agos at £4 miliwn o fewnfuddsoddiadau i Gymru. Mae eu henw da yn y maes yma’n golygu eu bod mewn sefyllfa dda i ddelio â’r sialensiau o hyrwyddo’r niferoedd o Fusnesau Bach a Chanolig sy’n derbyn HPC.
Dywedodd Rick Hillum, Prif Swyddog Gweithredol HPC Cymru: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio a dylanwadu ar ddyfodol rôl HPC mewn diwydiant ac mewn Busnesau Bach a Chanolig yn benodol, ar draws Ewrop. Mae ein llwyddiant hyd yma’n destament i fewnwelediad a gweledigaeth ein partneriaid Prifysgol Cymru a chyrff ariannu yn sefydlu gwasanaeth unigryw HPC Cymru.
Dywedodd Karen Padmore a arweiniodd y fid ac a fydd yn arwain y prosiect: “Mae uwchgyfrifiadura’n dod yn gyflym iawn yn dechnoleg anhepgor ar gyfer twf busnes ac rydyn ni’n falch o fod yn arwain y Rhwydwaith Ewropeaidd arwyddocaol hwn i ddarparu’r cymorth hanfodol y mae ar BBaCh ei angen i gael mynediad at wasanaethau HPC er mwyn llwyddiant masnachol yn y dyfodol.”
Dywedodd Augusto Burgueño Arjona, Pennaeth uned e-seilwaith y Comisiwn Ewropeaidd: “Mae argaeledd adnoddau HPC, perthynas dda ag ymchwil academaidd a chefnogaeth cwmnïau mawr yn hanfodol ar gyfer cystadleurwydd BBaCh a’u hymatebolrwydd i ofynion y farchnad.
“Drwy arwain y Rhwydwaith yma, bydd HPC Cymru’n hwyluso cread yr amgylchedd ffafriol yma ar gyfer BBaCh newydd a rhai sy’n bod yn barod, gan arwain y ffordd yn Ewrop gydag uchafu effaith economaidd e-seilwaith.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015