Hwb £10 miliwn gan yr UE i’r Parc Gwyddoniaeth newydd ar y Fenai
Mae hwb gwerth £10 miliwn ar gyfer datblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi’i gyhoeddi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.
Mae’r prosiect, dan arweiniad Prifysgol Bangor, eisoes wedi derbyn £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r UE yn darparu gweddill y cyllid sydd ei angen ar gyfer cam cyntaf y prosiect, gan adeiladu canolfan fodern fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar fusnesau carbon isel ac ynni adnewyddadwy.
Nod Parc Gwyddoniaeth Menai yw annog cydweithredu gyda sefydliadau ymchwil a phrosiectau arloesol a chreu cyfleoedd ar gyfer cyflogi pobl leol. Bydd hefyd yn ategu y fenter Ynys Ynni Môn ac Ardal Fenter Ynys Môn.
Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones: “Dwi’n falch o gyhoeddi £10 miliwn o gyllid gan yr UE ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth newydd cyffrous hwn ar y Fenai. Bydd yn cynnig amgylchedd bywiog a chefnogol ar gyfer busnesau carbon isel yng Ngogledd-orllewin Cymru, gan annog cydweithio wrth ddatblygu cynnyrch newydd, prosesau a gwasanaethau. Bydd y buddsoddiad hefyd yn creu swyddi, gan helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Ynys Môn a chyfrannu at dwf economaidd yr ardal a’r economi ehangach yng Nghymru.”
Mae’r gwaith adeiladu i ddechrau ar y safle yn Gaerwen, Ynys Môn, yn ystod haf 2016, gan ddisgwyl i’r busnesau cyntaf symud i mewn ar ddechrau 2018.
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gwyddoniaeth ac arloesedd, sy’n hollbwysig i greu twf economaidd a swyddi o safon uchel. Dwi’n falch iawn bod y cyllid bellach wedi’i drefnu i ganiatâu i’r prosiect cyffrous hwn fynd yn ei flaen. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol ac yn arwain at greu swyddi medrus iawn.”
Meddai Cyfarwyddwr y Parc Gwyddoniaeth, Ieuan Wyn Jones, “Mae’r cyhoeddiad heddiw, gyda buddsoddiad Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn hwb mawr i’r Parc Gwyddoniaeth, ond hefyd i’r mentrau gwyddonol yn y gogledd yn y dyfodol.
“Mae gennym y cyllid bellach ar gyfer adnodd gwirioneddol unigryw i’r rhanbarth. Bydd nid yn unig yn cynnig cyfleoedd am swyddi o safon uchel yn lleol, ond bydd o fudd i economi gogledd Cymru gyfan drwy greu amgylchedd waith ysbrydoledig i ddenu’r rhai hynny sy’n bwriadu adleoli i’r ardal.
“Mae hwn yn amser cyffrous iawn wrth fynd ati i ddatblygu’r Parc. Mae gennym y cynlluniau cychwynnol bellach ar gyfer yr adeilad cyntaf ar y safle wrth inni baratoi i gyflwyno cais cynllunio llawn i Gyngor Ynys Môn cyn diwedd y flwyddyn. Dwi’n gobeithio y bydd cymaint o bobl leol â phosib yn dod i’r ymgynghoriad cyhoeddus i weld drostynt eu hunain y weledigaeth ar gyfer y safle, a manteisio ar y cyfleoedd anhygoel sy’n cael eu cynnig gan y datblygiad hwn.”
Fel rhan o’r broses gynllunio, bydd y Parc hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i arddangos y cynlluniau arfaethedig ar gyfer yr adeilad cyntaf ar y safle. Bydd hyn yn digwydd ddydd Iau 29 Hydref rhwng 10.30am-7.30pm yn festri capel Disgwylfa yn y Gaerwen. Bydd aleodau o dîm y Prosiect yn bresennol yn yr ymgynghoriad ac mae manylion ar gael ar y wefan newydd hefyd: www.m-sparc.com.
Meddai yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor a Chadeirydd y Parc Gwydoniaeth, “Mae’r cynlluniau ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth ar y Fenai yn datblygu’n gyflym, ac mae’r cyllid yn newyddion gwych. Bydd y parc hwn yn dod yn lle ffantastig i ysbrydoli arloesedd a chreu economi uwch-dechnolegol yn yr ardal. Drwy gyfuno arbenigedd Prifysgol Bacngor a’n cynlluniau uchelgeisiol ni i ddatblygu ein cryfderau ym maes gwyddoniaeth, rydyn ni mewn sefyllfa gref i wneud gwahaniaeth mawr i’r ardal.”
Mae gweledigaeth y Parc dros y 30 mlynedd nesaf yn seiliedig ar greu cyfleoedd cyflogi hirdymor medrus iawn ar gyfer pobl leol, gan ddatblygu amgylchedd i rannu gwybodaeth a chreu hwb economaidd mewn sectorau megis carbon isel, ynni, yr amgylchedd a TGCh. Byddai’r parc gwyddoniaeth yn creu pont rhwng cwmnïau o’r fath, a Phrifysgol Bangor, perchnogion y Parc Gwyddoniaeth. Nod y prosiect yw creu economi glwstwr unigryw i annog y diwydiant uwchdechnoleg a phartneriaethau ymchwil gwyddonol yn y gogledd-orllewin.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015