Hwb ariannol i brosiect mentora iaith
Mae prosiect i godi proffil ieithoedd tramor modern wedi derbyn arian estynedig gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd disgyblion mewn mannau gwledig yng Nghymru.
Lansiwyd y Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern yn 2015, ac mae'n gosod israddedigion o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth mewn ysgolion lleol i fentora disgyblion a'u hannog i ystyried ieithoedd tramor modern wrth ddewis eu hopsiynau TGAU.
Cyllidir y prosiect mentora gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o'i chynllun Dyfodol Byd-eang sy'n ceisio gwella a hybu dewis ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r cynllun mentora wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion partner sydd wedi nodi cynnydd yn y nifer o ddisgyblion sy'n dewis ieithoedd ar lefel TGAU yn ogystal â gwell symbyliad i barhau i ddysgu ieithoedd ac ystyried cwrs prifysgol.
Gan fanteisio ar lwyddiant y prosiect, mae Llywodraeth Cymru bellach yn ehangu'r prosiect i gynnwys llwyfan digidol newydd fydd yn estyn ei gyrhaeddiad i ysgolion a disgyblion nad ydynt wedi gallu ymgysylltu â'r prosiect oherwydd lleoliad daearyddol. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i’r cynllun, sy'n caniatáu i fyfyrwyr mewn ardaloedd anghysbell neu wledig gysylltu'n ddigidol gyda mentoriaid o blith myfyrwyr. Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £140,000 arall yn nhrydedd flwyddyn y prosiect.
Cyfarfu Penaethiaid Ysgolion Ieithoedd Modern y pedair prifysgol partner yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, i drafod datblygiadau newydd a sut y gellid integreiddio dysgu ieithoedd tramor modern ymhellach yng nghwricwlwm yr ysgol.
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Rwyf i'n falch i ymestyn y cyllid ar gyfer y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern, yn sgil ei lwyddiant a'i gyfraniad at ein nod o gynyddu'r nifer o bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern. Ein huchelgais i bob dysgwr yng Nghymru yw astudio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith dramor fodern yn yr ysgol gynradd. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n creu cwricwlwm cyffrous newydd i Gymru ac rwyf i wrth fy modd fod y prifysgolion yn awyddus i weithio gyda ni i ystyried sut y gellir integreiddio ieithoedd tramor modern ymhellach yn y cwricwlwm.”
Dywedodd Dr Jonathan Ervine, Pennaeth Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor: "Fel fy nghydweithwyr o brifysgolion eraill Cymru sy'n rhan o'r project hwn, rwyf wedi fy nghalonogi yn fawr drwy siarad â Kirsty Williams am y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu integreiddio ieithoedd yn y cwricwlwm newydd ar draws Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at lansiad platform digidol sy'n golygu y byddwn yn gallu gweithio gyda mwy o ysgolion yma yng Ngogledd Cymru a sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o ddisgyblion yn elwa o'r project gwych hwn."
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, arweinydd academaidd y prosiect mentora ac Athro Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae cyflwyno plant i sylfaeni dysgu iaith ar oedran cynnar yn hanfodol ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth well o ddiwylliannau a chymdeithasau eraill ac wrth i Gymru a'r DU agosáu at y trafodaethau ynghylch gadael yr UE mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer dyfodol Cymru.”
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2017