Hwb ariannol i wyddorau morol Cymru
Heddiw (dydd Mercher, 8 Medi), cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, fuddsoddiad sylweddol o £23.6m i ddatblygu sector morol Cymru sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y prosiectau ymchwil y mae busnesau a phrifysgolion, rhyngddynt, yn gallu eu rhoi ar waith.
Mae prosiect SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn dull Cynaliadwy) Prifysgol Bangor wedi cael y golau gwyrdd yn dilyn hwb ariannol o £12.6m gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y prosiect yn datblygu syniadau ymchwil arloesol yn brosesau, yn wasanaethau ac yn dechnolegau newydd ac yn annog dros 450 o fusnesau i dyfu, i greu swyddi newydd technegol iawn ac i ennill mwy o gontractau rhyngwladol.
Fel rhan o’r prosiect, bydd Canolfan Arloesi newydd yn cael ei sefydlu yn Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd y Brifysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Bydd y Ganolfan yn darparu cyfleusterau labordy a chyfleusterau cyfrifiadurol i fentrau bach a chanolig.
Hefyd, bydd busnesau bach a chanolig yn gallu defnyddio llong 40 metr o hyd y mae Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd yn ei defnyddio gyda’u gwaith ymchwil, sef y ‘Prince Madog’ er mwyn canolbwyntio ar astudiaethau’n ymwneud â thaclo effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fel erydu arfordirol, llifogydd, ansawdd dŵr a chynhyrchu ynni ar y môr.
Mae Mr Jones yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth hefyd a dywedodd:
“Bydd cynyddu gweithgaredd masnachol a hybu mewnfuddsoddi yn y sector gwyddorau morol yn helpu i ddiogelu swyddi uchel eu hansawdd a chyfrannu tuag at wneud Cymru yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer y sector hwn sydd ar gynnydd.
“Mae ein polisi economaidd newydd ‘Adfywio’r Economi: Cyfeiriad Newydd’ yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu busnesau i ffynnu trwy fanteisio ar wybodaeth ein Prifysgolion. Hefyd, rydym yn ymrwymo i greu cyfleoedd i raddedigion i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus trwy ddefnyddio eu sgiliau o fewn eu cymunedau eu hunain ac i greu mentrau newydd.”
Dywedodd yr Athro Colin Jago o Ysgol Gwyddorau’r Cefnforoedd Prifysgol Bangor:
“Mae Cymru mewn sefyllfa i weithredu mewn dull strategol i fanteisio ar gynnydd cyflym y diwydiant cynhyrchu ynni ar y môr sydd eisoes yn mynd rhagddo ym Môr yr Iwerydd. Mae’n holl bwysig ein bod yn cydlynu ein hymchwil a’n mentrau busnes fel bod Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y diwydiant hwn ac mae SEACAMS yn rhan bwysig o’r broses hon hefyd.”
“Mae newid yn yr hinsawdd yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i’r sector morol ac arfordirol - materion fel cynhyrchu ynni ar y môr, erydu arfordirol a llifogydd, ansawdd dŵr o amgylch yr arfordir, ecosystemau ac iechyd y cyhoedd ac mae gan adnoddau morol cynaliadwy oblygiadau amrywiol iawn ar lefel leol, ranbarthol a rhyngwladol. Hefyd, mae’n gallu cael effaith ar gyfran fawr o’r boblogaeth ddynol sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd morol ac arfordirol, nid yn unig ar lefel economaidd, ond ar lefel ddiwylliannol hefyd.”
Prifysgol Bangor sy’n arwain y prosiect mewn cydweithrediad â’i bartneriaid ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth a nhw hefyd sy’n ariannu’r prosiect gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Dywedodd Dr Gay Mitchelson-Jacob, rheolwr y prosiect:
“Mae gan Gymru arbenigedd academaidd heb ei ail mewn gwyddorau morol ac arfordirol; gyda SEACAMS, bydd modd i gwmnïau bach a chanolig sy’n arbenigo yn sector morol Cymru ddefnyddio’r arbenigedd hwn i wneud gwaith ymchwil a datblygu. Hefyd, bydd yn rhoi cyfle i raddedigion gwyddorau morol barhau â’u gyrfaoedd yma yng Nghymru yn hytrach na’u bod yn gorfod mynd i weithio dros y ffin."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2010