Hwyluso'r ffordd o wneud ewyllys
Ddydd Llun, 9 Hydref, bydd Comisiwn y Gyfraith Lloegr a Chymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor i ymgynghori â'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru sut orau y dylid mynd ati i ddiwygio'r gyfraith ar wneud ewyllys.
Wrth groesawu ymweliad Comisiwn y Gyfraith â Bangor i geisio barn y cyhoedd, dywedodd Yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith:
"Mae 40% o bobl yn marw heb wneud ewyllys - pam? Mae rhai'n ofni gwneud camgymeriad rhag ofn y byddai hynny'n gwneud yr ewyllys yn ddi-rym. Gall eraill ei chael yn anodd gwneud y mathau o benderfyniadau pwysig sydd eu hangen wrth wneud ewyllys. Neu efallai bod ganddynt anawsterau iechyd meddwl, neu nam ar eu golwg, neu ryw fath arall o reswm personol."
"Mae angen i'r Ddeddf Ewyllysiau, sy'n mynd yn ôl i 1837, gael ei thynnu i'r cyfnod modern. Cafodd ei gweithredu mewn cyfnod pan nad oedd merched yn cael pleidleisio, na bod yn berchen eiddo mewn llawer o amgylchiadau. Nawr mae'r cwestiwn yn codi - ydi oes papur ac inc wedi mynd heibio pan ddaw'n fater o wneud ewyllys? Yn yr oes ddigidol hon, oni ddylem ni fedru gwneud ewyllysiau'n electronig, dyweder ar ein ffonau symudol neu ein tabledi? Fe ellwch briodi'n 16 oed, ond ellwch chi ddim gwneud ewyllys yr oed hwnnw. Onid ydi hynny'n anghyson?" gofynnodd Yr Athro Cahill.
Dyma rai o'r materion yr hoffai'r Comisiwn glywed barn y cyhoedd arnynt pan fydd yn ymweld â Bangor ar 9 Hydref. Mae ar y Comisiwn eisiau clywed gan ystod eang o'r cyhoedd, yn cynnwys grwpiau bregus fel yr henoed; rhai ag amhariadau gweld neu glywed; a grwpiau bregus eraill sy'n ei chael yn anodd gwneud ewyllys.
Dyma eich cyfle i adael i'r Comisiwn glywed eich barn. Dewch draw i Brifysgol Bangor am 5pm ddydd Llun 9 Hydref. Mae'n hanfodol cofrestru ymlaen llaw, felly cysylltwch â Becky.Jones@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 382907 i archebu eich lle os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017