I Affrica ‐ Datblygu Cynaliadwy Cymreig
Mae arbenigwyr Cymreig ar dechnolegau ynni adnewyddadwy wedi bod yn rhannu eu profiadau i bobl fusnes fu ar gwrs ar ynni adnewyddadwy. Y gobaith yw y byddant yn gallu mynd â’u profiadau o Gymru yn ôl i Affrica i ddatrys yr her sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd fyd‐eang. Cafodd y pymtheg oedd yn rhan o’r cwrs eu hannog i ddatblygu syniadau busnes eu hunain fydd yn datrys problemau’n ymwneud â datblygu’n gynaliadwy.
“Ein gwaith ni oedd eu hannog i ystyried beth yw gwir ystyr cynaliadwyedd ac i fentro meddwl a gwneud pethau’n wahanol a chreadigol. Roeddem am roi’r hyder iddyn nhw fynd yn ôl gyda syniadau am dechnoleg adnewyddadwy y gallant eu haddasu i ddatrys eu problemau nhw yn eu ffordd eu hunain” meddai Dr Einir Young, Cyfarwyddwr dros dro a Phennaeth Datblygu Cynaliadwy Sefydliad Cymreig ar gyfer Adnoddau Naturiol (SCAN) Prifysgol Bangor.
Cefnogwyd y cwrs, a barodd am fis, gan Sefydliad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Diwydiant (UNIDO) a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd pobl o chwe gwlad Affricanaidd yn rhan o’r grŵp, i gyd wedi ymrwymo i ddelfryd UNIDO o ‘hyrwyddo datblygiad diwydiannol er mwyn lleihau tlodi, globaleiddio cynhwysol a chynaliadwyedd amgylcheddol’.
“Rydym i gyd yma o wahanol rannau o Affrica er mwyn dysgu am gynaliadwyedd yng Nghymru. Rydym oll wedi ymuno â her fyd‐eang o leihau ein dibyniaeth ar garbon” meddai Mr Samuka Dunnoh o Liberia.
Croeso i’r dreigiau Cymreig:
Cafodd yr ymwelwyr elwa ar brofiadau arbenigwyr o BC (Y ganolfan bio‐gyfansoddion), BML Oils, Bright Light Solar Ltd, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Clifford Jones Timber Ltd, Canolfan Newid Hinsawdd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Infinis Plc, Canolfan Amgylcheddol Moelyci, Reegen Ltd, Resurgam (project ynni’r llanw Conwy tidal ), Q Marketing & PR Ltd, Venture Wales, Waste Recycling Group Ltd, Ynni Gwynt Cymru Cyf. ac Ynys Resources Ltd
Uchafbwynt y cwrs, ddydd Iau Medi 16, oedd cyflwyno cynlluniau busnes i banel o ‘Ddraig Cymreig’ er mwyn ymarfer gwneud cyflwyniad busnes llwyddiannus. Gyda’r nos cawsant gyfarfod y Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones i ddiolch i’r Cynulliad am eu haelioni’n ariannu’r cwrs, i drafod eu cynlluniau a rhannu uchafbwyntiau'r mis gydag ef. Cyflwynwyd tystysgrifau cyrhaeddiad iddynt gan Alun Ffred Jones.
“Mae hwn wedi bod yn gyfle arbennig i ddangos technoleg adnewyddadwy Cymru ar ei orau ac rwy’n mawr obeithio y bydd eu profiad yng Nghymru yn eu helpu i ddod o hyd i atebion o Affrica ar gyfer yr her newid hinsawdd” meddai Alun Ffred Jones.
“Hoffwn ddiolch i’r Brifysgol am eu harbenigedd a’u croeso. Cawsom ein goleuo yn ystod y teithiau i weld arbenigwyr Cymreig. Llwyddodd y cwrs i chwalu’r hud cynaliadwyedd a thechnoleg gynaliadwy, mae gen i’r hyder nawr i roi technoleg Gymreig ar waith yng nghyd‐destun Affrica. Rydym yn barod ar gyfer yr her” meddai Usamah L. Kaggwa, Swyddog Ynni Gweriniaeth Uganda.
Mae ffilm o'rentrepreneuriaid Affricanaidd i'w weld yma.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2010