Iddewiaeth a'r Holocost yn Full Metal Jacket Stanley Kubrick
Mae’r Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi derbyn gwahoddiad i draddodi darlith ar ffilm Stanley Kubrick, Full Metal Jacket, yn JW3: Jewish Community Centre London fory (Ionawr 18). Mae’r Athro Abrams yn arbenigwr ar Kubrick a’i waith yn ogystal â bod yn awdurdod ar bortreadau sinematig o Iddewon ac Iddewiaeth.
Wedi ei rhyddhau yn 1987, mae Full Metal Jacket yn dilyn grŵp o filwyr ifanc o’u cyfnod dan hyfforddiant brwnt yn Parris Island i hunllef y brwydro clawstroffobig yn Fietnam. Erbyn hyn, mae’r ffilm a gyfarwyddwyd, gynhyrchwyd a chyd-ysgrifenwyd gan Kubrick, yn cael ei hystyried yn glasur.
Meddai’r Athro Abrams:
“Wrth i’r ffilm ddathlu tri deg mlynedd ers ei rhyddhau, mi fydda i’n siarad am y modd y mae Full Metal Jacket yn cyfeirio at ddau o themâu mawr Stanley Kubrick, Iddewiaeth a’r Holocost – dwy thema na chaiff eu cysylltu’n aml â’r ffilm gan ei bod wedi ei gosod yn Fietnam yn 1968. Serch hynny, mae Kubrick yn gosod y themâu hyn dan wyneb y ffilm ac mi fydda i’n esbonio sut y mae’n gwneud hynny.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017