Ieithoedd: Eich Pasbort i Lwyddiant
Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o’r Ysgol Ieithoedd Modern a oedd wedi’u recriwtio’n Arweinwyr Routes into Languages, gyfle i ddangos y gall ymgysylltu â’r gymuned leol fod yn hollbwysig wrth godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd dysgu ieithoedd.
Yn y digwyddiad Ieithoedd: Eich Pasbort i Lwyddiant, cafodd athrawon a disgyblion o ysgolion uwchradd lleol gyfle i wrando ar ddau fyfyriwr ieithoedd o Fangor yn sôn am eu profiadau boddhaol. Disgrifiodd Susie Turnbull ac Andrew Belisle yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn ystod eu blwyddyn dramor, mewn gwahanol wledydd megis Sbaen, Ffrainc a’r Eidal. Rhoddodd y fyfyrwraig Emma Noakes wybodaeth ynglŷn â’r budd gyrfaol a ddaw o wybodaeth o ieithoedd, yn ogystal â manylion yr hyn y mae dysgu iaith ym Mhrifysgol Bangor yn ei olygu.
Meddai Ruben Chapela, Swyddog Project Routes into Languages:
“Cafwyd trafodaeth fywiog ymysg y gwesteion a’r siaradwyr, a llwyddodd ein myfyrwyr unwaith eto i gyfleu neges lawn ysbrydoliaeth wrth eu cynulleidfa: gall ieithoedd fynd â chi ymhellach.”
Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i’r digwyddiad; roedd pawb a oedd yn bresennol yn cytuno’n gryf i’r digwyddiad fod yn addysgiadol iawn. Buont yn ganmoliaethus iawn o gyflwyniadau mor addas a llawn ysbrydoliaeth, yn ogystal ag o gymhelliant ac ymgysylltiad yr Arweinwyr Ieithoedd o blith y Myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2013