Is-ganghellor i gynnal lansiad prosiect ‘Economi Werdd’ Ysgol Busnes Bangor
Ar Ddydd Llun, Hydref y 17eg 2011, cynhelir lansiad prosiect GIFT Ysgol Busnes Bangor. Prosiect yw GIFT sydd yn gyfrwng sefydlu fforwm draws ffiniol i helpu twf a chynhaliaeth “economi werdd” mewn rhyngbarthau penodol yng Nghymru ac Iwerddon.
Partneriaeth yw GIFT rhwng Prifysgol Bangor, Sefydliad Technolegol Waterford yn Iwerddon, a Choleg Prifysgol Dulyn. Bwriad y prosiect yw i gyfoethogi sgiliau busnesau, mentrau cymdeithasol a’r sector gyhoeddus yng Nghymru ac Iwerddon. Ariannwyd Project GIFT gan y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy raglen Iwerddon Cymru (INTERREG4A).
Prif ffocws y cynllun ‘Economi Werdd’ yw gweithgareddau economegol technegol eu naws yn ymwneud a’r amgylchedd, newid hinsawdd, ynni a rheoli gwastraff; a gweithgareddau busnes megis twristiaeth, sydd yn gwneud defnydd o’r amgylchedd ac a all ehangu drwy wasanaethau a chynnyrch newydd.
Yr Athro John Hughes (Is-ganghellor Prifysgol Bangor), Dr Gareth Griffiths o’r Ysgol Fusnes a Dr Morag McDonald o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn gyfrifol am yr achlysur. Ymhlith y siaradwyr gwadd bydd Gareth Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Drafnidiaeth ac Economi Llywodraeth Cymru a Wendy Boddington, Pennaeth Polisi Ynni Cynaliadwy Gogledd Cymru. Yn ogystal bydd cyflwyniad hefyd gan Jonathan Derham o Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd Iwerddon.
Cynhelir y lansiad o 7 o’r gloch ymlaen ar Ddydd Llun, Hydref yr 17eg 2011, yn Nhŷ Menai (Technium CAST), Parc Menai, Bangor. Ni fydd rhaid talu ond mae’n hanfodol cofrestru - cliciwch yma i gofrestru trwy safle we eventbrite.
Ceir gwybodaeth bellach am brosiect GIFT o dudalennau we Ysgol Busnes Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2011