Is-Ganghellor i ymddeol ym mis Awst 2019
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol fis Awst nesaf ar ôl naw mlynedd wrth y llyw.
Yn rhyfeddol, dim ond saith Is-Ganghellor sydd wedi bod yn holl hanes y Brifysgol, dros 135 o flynyddoedd, a bydd y Brifysgol yn hysbysebu'n fuan am olynydd i’r Athro Hughes.
Meddai Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor: "Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Athro Hughes am ei gyfraniad rhyfeddol. Mae wedi goruchwylio dros newid sylweddol yn y Brifysgol, ac mae wedi sicrhau bod myfyrwyr yn parhau wrth wraidd bopeth a wnawn."
Dan arweinyddiaeth yr Athro Hughes, cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd ym Mhrifysgol Bangor gan gynnwys Pentref Myfyrwyr newydd gwerth £38m ar safle’r Santes Fair, y bartneriaeth gyntaf erioed rhwng Cymru a Tsieina i sefydlu coleg newydd yn y wlad honno, sefydlu Parc Gwyddoniaeth Menai gwerth £20m, agor Canolfan Morol Cymru gwerth £5.5m ym Mhorthaethwy a oedd yn rhan o'r prosiect SEACAMS gwerth £25 miliwn, yn ogystal â chwblhau prosiect Pontio gwerth £50 miliwn.
Prifysgol Bangor oedd y gyntaf yng Nghymru i dderbyn gradd 'Aur' yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd, gan adlewyrchu'r safonau addysgu rhagorol sydd i’w cael yn y brifysgol. Roedd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf hefyd yn cydnabod bod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai'n flaenllaw yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Yn fwy diweddar, ehangwyd arbenigedd ymchwil y Brifysgol ym meysydd gwyddor deunyddiau a modelu rhagfynegol mewn cydweithrediad â Imperial College London, a ffurfio Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mangor gyda £6.5m o raglen Sêr Cymru y Llywodraeth.
Daeth yr Athro Hughes i Fangor ym mis Medi 2010. Magwyd ef yn Belfast, ac mae ei gefndir academaidd ym meysydd mathemateg a ffiseg ddamcaniaethol.
Yn dilyn cyfnodau ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast ac yn yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol yn Fienna, fe’i penodwyd yn Athro Peirianneg Systemau Gwybodaeth, ac yn ddiweddarach yn Ddeon ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Ulster rhwng 1991 a 2004. Fe'i penodwyd yn Llywydd Prifysgol Maynooth yn 2004, cyn symud i Fangor yn y man.
Bydd yr Athro Hughes yn aros yn y Brifysgol tan Haf 2019, pan y disgwylir i’w olynydd gymryd yr awenau.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018