Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn croesawu Llywodraethwr y Central Bank of Bahrain, H.E Rasheed Mohammed Al Maraj, i aduniad arbennig ym Mahrain
Yn ddiweddar, croesawyd H.E. Rasheed Mohammed Al Maraj, Llywodraethwyr y Central Bank of Bahrain a Chadeirydd Cyngor ar gyfer Hyfforddiant Galwedigaethol (Sector Bancio) y Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF), i aduniad ym Mahrain gan Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes. Daeth dros 170 o bobl i'r digwyddiad nos Fawrth i ddathlu'r bartneriaeth rhwng Bangor a BIBF.
Cynhaliwyd yr aduniad ddiwrnod wedi graddio blynyddol y BIBF. Eleni derbyniodd 50 o fyfyrwyr Bahrain eu graddau wedi'u dilysu o Fangor. Dechreuodd y bartneriaeth rhwng y brifysgol o Brydain a BIBF yn 2004 gyda'r garfan gyntaf o fyfyrwyr wedi graddio yn 2007. Ers hynny mae dros 500 o fyfyrwyr wedi graddio gyda'r rhaglen, a llawer o'r rhain wedi dod i Fangor i astudio.
"Mae gan Brifysgol Bangor ddiddordeb allweddol o ran cefnogi gweledigaeth economaidd Bahrain drwy ddatblygu graddedigion sy'n barod i gyfrannu at gynhyrchiant y wlad a chystadleurwydd byd-eang", dywedodd yr Athro John G Hughes. "Roedd y graddio a'r aduniad eleni yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd flwyddyn nesaf."
Roedd uwch aelodau staff o Fangor yn cynnwys Yr Athro Phil Molyneux, Deon y Coleg Ysgol Busnes, a Sheila O'Neal, Cyfarwyddwr Datblygu. Roedd Cyfarwyddwr BIBF, Solveig Nicklos hefyd yn y digwyddiad. Cyflwynodd Yr Athro John G Hughes ysgrifbin coffaol i H.E. Rasheed Mohammed Al Maraj i nodi'r bartneriaeth rhwng Bangor a BIBF.
Mae Prifysgol Bangor ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd am ei hagwedd ryngwladol. Mae Ysgol Busnes Bangor ymysg yr 20 uchaf yn y byd am ymchwil ym maes Bancio (RePEc, Ionawr 2015), ac mae'r Times a'r Sunday Times yn rhoi Bangor yn y 50 prifysgol uchaf yn y DU. Ar ben hynny, Prifysgol Bangor oedd y cyntaf yn y DU i gynnig MBA mewn Bancio a Chyllid, ac mae ganddi sawl partneriaeth gyda gwledydd yn y Gwlff, yn cynnwys BIBF a'r Emirates Institute of Banking and Financial Studies (EIBFS).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2015