Is-Ganghellor yn rhoi esiampl i eraill trwy gael cymhwyster Cymraeg uwch
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes, wedi cyrraedd carreg filltir arall ar ei daith yn dysgu Cymraeg, gan ennill gradd A yn yr arholiad Defnyddio’r Gymraeg: Uwch (sydd gyfwerth â lefel A), a hynny mewn cwta pedair blynedd.
Yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, penodwyd yr Athro John G. Hughes yn Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn 2010 ac addawodd ar unwaith y byddai’n dysgu Cymraeg.
Llongyfarchodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Canghellor y Brifysgol, yr Athro John G Hughes ar ei lwyddiant gan ddweud:
“Yn ystod ei gyfweliad ar gyfer y swydd Is-ganghellor addawodd yr Athro John Hughes y byddai’n dysgu Gymraeg at safon rhugl iawn. Mae ei lwyddiant yn bleser mawr i mi, ac yn gosod esiampl i bobl eraill sy’n cael eu penodi i swyddi cyhoeddus yng Nghymru.”
Mae ennill y cymhwyster yn nodi bod yr Is-Ganghellor wedi cyrraedd safon uchel iawn. Mae cyrraedd y safon hon mewn pedair blynedd yn dangos gwaith caled ac ymroddiad i ddysgu’r iaith.
Dywedodd yr Athro John G Hughes:
“Mae'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o ethos Prifysgol Bangor. Rwyf wedi mwynhau dysgu'r iaith yn fawr ac yn gobeithio y bydd fy mhrofiad yn anogaeth i ddysgwyr eraill.”
Dysgwyd yr Athro John G Hughes gan diwtoriaid Canolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Bangor.
Meddai Elwyn Hughes, Uwch Diwtor-Drefnydd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan ynglŷn ag ymroddiad yr Is-ganghellor i ddysgu’r iaith:
“Mae’r Is-Ganghellor wedi mynd ati’n gydwybodol iawn i ddysgu Cymraeg yn ôl ei addewid ac wedi cyrraedd safon hynod o uchel mewn amser byr. Gall yn awr drafod amrywiaeth eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae ganddo eirfa helaeth ac mae wedi darllen llawer o lyfrau heriol. Ar hyn o bryd, mae’n darllen Chwalfa gan T. Rowland Hughes yn barod i fynd i weld cynhyrchiad agoriadol Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol. Y peth pwysig yn awr yw ei fod yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer ei sgiliau, felly dylai siaradwyr Cymraeg gofio cyfathrebu gyda’r Is-ganghellor trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob achlysur o hyn ymlaen.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2014