#IWD2019 ym Mhrifysgol Bangor
Ar 8 Mawrth, ymunodd Prifysgol Bangor yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019 (#IWD2019) trwy gynnal digwyddiad cyffrous a oedd yn amlygu gyrfaoedd a chyfraniadau menywod mewn swyddi arweinyddiaeth ym Mangor a'r cyffiniau, yn ogystal â darparu fforwm ledled y Brifysgol ar gyfer trafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb rhyw sy'n effeithio ar staff a myfyrwyr.
Gan arwain at y prif ddigwyddiad ar 8 Mawrth, croesawodd y Brifysgol Patsy Sanchez, Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiad ym Mhrifysgol De Florida, a drafododd yr heriau y mae menywod yn parhau i’w hwynebu yn y gweithle. Yn ystod ei sgwrs, amlygodd rai o'r ffactorau sy'n cyfrannu at yr heriau hyn, megis stereoteipio a rhagfarn anymwybodol. Archwiliwyd y themâu hyn ymhellach gan y panelwyr a'r siaradwyr yn y prif ddigwyddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Yn eu plith, Siân Gwenllian (Aelod Cynulliad Arfon), Frankie Hobro (perchennog a chyfarwyddwr Sw Môr Môn), Noemi Mantovan (Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Busnes Bangor), Yr Athro David Thomas (Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor a Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd) a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor â chyfrifoldeb dros fyfyrwyr, Yr Athro Carol Tully.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Yr Athro Jo Rycroft-Malone (Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Effaith ym Mhrifysgol Bangor a chadeirydd Grŵp Tasg Athena SWAN y sefydliad) a arweiniodd weithgareddau’r dydd:
“Y thema eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod oedd #BalanceForBetter, gan dynnu sylw at y cyfraniadau y gallwn oll eu gwneud wrth gyflawni byd sy’n arddel cydbwysedd rhwng y rhywiau. Roedd ein digwyddiad #IWD2019 yn cynnwys cyfraniadau gan fenywod a dynion fel ei gilydd a hoffwn ddiolch i'r holl siaradwyr am eu sgyrsiau diddorol a heriol. Byddwn yn parhau â'n gwaith ymgyrchu ar gyfer #BalanceForBetter drwy gydol y flwyddyn.”
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhywiol Athena SWAN ac mae ganddi wobr Efydd Athena SWAN i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw ac amrywiaeth, arferion gwaith rhagorol, a'r diwylliant cynhwysol a hyrwyddir ar gyfer staff a myfyrwyr ar bob lefel.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019