Jack Rooke: Good Grief yn Pontio
Good Grief, sioe gyntaf Jack Rooke a sioe sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel, sy'n dechrau rhaglen deithiol Soho Theatre yn 2017 wrth iddynt barhau i ddod â gweithiau gorau lleoliad bywiocaf Llundain o ran theatr, comedi a chabare newydd i lwyfannau ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y daith yn galw yn Stiwdio Pontio Bangor ar nos Sadwrn 29 Ebrill am 7.30pm
Datblygodd Jack y sioe Good Grief trwy'r Soho Young Company (rhaglen addysg Soho Theatre sy'n ceisio darganfod a meithrin awduron ac artistiaid newydd). Aeth â'r sioe i Ŵyl Fringe Caeredin yn 2015 lle cafodd adolygiadau pedair a phum seren a chafodd y sioe ei chrybwyll ymhlith uchafbwyntiau Gŵyl Caeredin yn y New York Times. Parhaodd llwyddiant y sioe, a lwyddai i werthu pob tocyn, fel rhan o dymor cychwynnol Soho Rising y llynedd yn Soho Theatre ar ôl bod yn neuadd tref Shoreditch, Gŵyl Farddoniaeth Aldeburgh ac yn Bestival.
“Good Grief kicks off an exciting time for us at Soho Theatre as we step up our touring this year. Working with our partners we are also touring Ursula Martinez’s Free Admission & Panti’s High Heels in Low Places as we take the best of our work to new audiences up and down the country.” Sarah Dodd, Cynhyrchydd Teithiol Soho Theatre
Mae Good Grief yn cyfuno comedi, adrodd straeon a ffilm er mwyn edrych ar sut rydym yn trin galarwyr gan herio toriadau lles arfaethedig i deuluoedd yn eu galar a dathlu canfod hapusrwydd yn dilyn trasiedi. Gyda llond arch o ddanteithion cydymdeimlo, mae Rooke a'i nain yn gwahodd cynulleidfaoedd i dref hapusaf Prydain lle mae dad wedi marw a'r unig beth i'w fwyta yw lasagne.
“Nobody but Rooke could have told his story with such unflinching humour” ★★★★★ Broadway Baby
Cafodd Rooke ei gomisiynu gan BBC Comedy i addasu Good Grief ar gyfer BBC Radio 4 a cafodd ei darlledu ganol Mawrth ac, mae hefyd wedi ffilmio ei gyfres deledu gyntaf, sef Happy Man ar gyfer BBC Three fel rhan o'r tymor iechyd meddwl yn y gwanwyn. Ef yw arbenigwr preswyl BBC Radio 1 i drafod materion yn ymwneud ag iechyd meddwl a galar. Mae i'w glywed yn aml ar raglen Surgery, Radio 1 ac ar raglenni dogfen megis 'R1's Guide to Happiness' a rhaglen Clara Amfo, 'Running with Grief'. Mae wedi ysgrifennu i'r Independent, Cosmopolitan, Huffington Post, The Guardian a CALMzine, sef cylchgrawn chwarterol yr oedd yn Is-olygydd arno rhwng 2013 a 2015 ar ôl bod yn llysgennad CALM.
“[Jack Rooke] has a punchy sense of humour and an anarchic, naughty spring in his step.” Gemma Cairney
Mae hefyd yng ngofal The Guardian Literary Institute yn Camp Bestival yn ogystal â The Arts Amphitheatre yn Bestival ac mae wedi perfformio yn Soho Theatre, The Royal Court, The Roundhouse, Trafalgar Studios, Latatitude ac yng ngŵyl Fringe Caeredin. Yn 2015, Jack oedd un o uchafbwyntiau diwylliannol Gemma Cairney a chafodd Good Grief ei henwebu yng nghategori'r Sioe Orau gan Artist Newydd yng Nghaeredin yng ngwobrau Total Theatre.
“Good Grief started in my Nan's council flat over some sweet and sour chicken balls and has bizarrely achieved any dream I had for it. As a comedy-documentary-theatre show its been commissioned by BBC Comedy, spawned a BBC Three documentary series (Happy Man), featured in The New York Times fringe highlights and now I'm chuffed it's touring nationally with Soho Theatre. I hope this encourages people to eat sweet and sour chicken balls and chat with their Nan more often.” Jack Rooke
SOHO THEATRE AND JACK ROOKE YN CYFLWYNO
JACK ROOKE: GOOD GRIEF
Stiwdio, Pontio Bangor
Nos Sadwrn 29 Ebrill, 7.30pm
Tocynnau o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu galwch yn y ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017