Jamie & Louise yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Mae’r rhaglen gylchgrawn poblogaidd Jamie & Louise ar Radio Wales, sy’n cael ei gyflwyno gan y newyddiadurwr-gyflwynwyr Jamie Owen a Louise Elliott, yn dod yn fyw o Brifysgol Bangor ddydd Gwener 7 Hydref.
Yn ystod y rhaglen rhwng 9.00 a 12.00, bydd y cyflwynwyr yn cyfweld nifer o fyfyrwyr a staff, gan ddarparu cipolwg ar fywyd yn y Brifysgol.
Meddai Paul Forde, Uwch Gynhyrchydd, Jamie a Louise, BBC Radio Cymru: "Mae BBC Radio Wales yn ymfalchïo yn cynnwys straeon o bob cwr o Gymru. Pan glywon ni am rai o'r prosiectau ymchwil arloesol a chyffrous sy'n digwydd ym Mhrifysgol Bangor, roedd rhaid i ni godi’n pac a dod â'r rhaglen i’r Gogledd i gael gwybod mwy am rai ohonynt. Rydym yn sicr y bydd yn fore diddorol o wrando i’n cynulleidfa.”
"Mae prifysgolion yn gartref i bob math o ymchwil - ac mae llawer iawn o'n gwaith ymchwil yn bwydo i mewn i agweddau gwahanol o fywyd bob dydd yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol, felly mae'n wych cael y cyfle i wahodd gwrandawyr Radio Cymru i mewn i’r Brifysgol fel hyn," meddai'r Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes, a fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2011