Lansiad Hugan Fach Goch Amlieithog
Bu myfyrwyr o Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni yn ddiweddar yn cynnal gweithgareddau i ddisgyblion blwyddyn 7. Cafodd y disgyblion gyfle i brofi a meddwl am ieithoedd tramor mewn cyd-destun Ewropeaidd, drwy weithio gyda dull dysgu newydd ‘Llwybrau at Ieithoedd Cymru’. Datblygwyd yr adnodd hwn ym Mhrifysgol Bangor i godi ymwybyddiaeth am ieithoedd eraill yn ysgolion Cymru.
Yn dilyn sesiwn fer am ddysgu ieithoedd, dangoswyd fersiwn wedi’i recordio o'r chwedl boblogaidd, yr Hugan Fach Goch. Roedd y cymeriadau yn y ffilm yn siarad Iseldireg, Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg, Pwyleg a Sbaeneg, gan gyflwyno’r disgyblion i nifer o ieithoedd nad oeddent wedi eu clywed o'r blaen. Fe’u hanogwyd i weithio drwy gyfres o dasgau gan ddefnyddio’r ieithoedd. Cyflwynwyd y sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn i’r myfyrwyr deimlo’n fwy cyfforddus i ofyn cwestiynau a chymryd rhan. Penderfynodd nifer ohonynt ar y diwrnod y byddent yn hoffi astudio ieithoedd eraill yn y dyfodol.
Cynhaliwyd y gweithgaredd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor, un ohonynt yn llysgennad hyfforddedig ‘Llwybrau at Ieithoedd’, gan weithio gyda phob disgybl. "Roeddent i gyd wedi’i fwynhau’n fawr iawn," meddai Rhian Baum, eu hathrawes. Wrth adael y dosbarth, diolchodd y disgyblion i'r tîm yn Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg ac ieithoedd eraill.
Mae'r adnodd dysgu newydd hwn ar gael yn awr yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wefan ‘Llwybrau at Ieithoedd Cymru’ ac mae'n cynnwys y sgript amlieithog, dolen i’r fideo a chyfres o weithgareddau i blant.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2013