Lansiad y Rhwydwaith 'Meddyliwch Almaeneg' Cymru
Lansiwyd rhwydwaith newydd yn ddiweddar, gyda'r amcan o annog diddordeb ledled Cymru yn yr iaith Almaeneg a diwylliannau'r gwledydd lle siaredir Almaeneg. Mae'r project dan arweiniad Prifysgol Bangor (Dr Anna Saunders) a Phrifysgol Abertawe (yr Athro Julian Preece). Mae'n un o nifer o rwydweithiau rhanbarthol sydd wedi dechrau ar hyd a lled y DU, fel rhan o fenter genedlaethol a gefnogir gan Lysgenhadaeth yr Almaen i hyrwyddo'r iaith a diwylliant Almaeneg.
Amcan y Rhwydwaith 'Meddyliwch Almaeneg' Cymru yw dod â’r prifysgolion, ysgolion a busnesau ym mhob rhan o Gymru sydd â diddordeb mewn diwylliannau sy'n siarad Almaeneg ynghyd, i ddarparu fforwm i gyfnewid profiadau, cysylltiadau a deunyddiau. Yn wyneb y niferoedd gostyngol o ysgolion yng Nghymru sy'n cynnig Almaeneg a'r nifer is o fyfyrwyr, mae'r rhwydwaith yn gobeithio rhoi hwb i broffil Almaeneg mewn ysgolion a dangos y manteision o ddysgu'r iaith.
Meddai Dr Anna Saunders: 'Mae llawer o resymau da dros astudio Almaeneg, ar wahân i'r ffaith ei fod yn hwyl ac yn ysgogol yn ddeallusol. Er enghraifft, economi'r Almaen yw'r mwyaf yn Ewrop a'r pedwerydd mwyaf yn y byd, a'r Almaen yw partner masnachu mwyaf y DU. Mae llawer o alw am siaradwyr Almaeneg ymysg cyflogwyr Prydain, gydag arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), yn ei gosod ar frig y rhestr o ieithoedd a nodir gan reolwyr fel yr un mwyaf defnyddiol i'w busnesau.'
Mae’r rhwydwaith yn bwriadu cynnal digwyddiadau fel gweithdai ysgolion mewn prifysgolion lleol, cystadlaethau â thema, fforwm athrawon a sefydlu ‘Stammtische’ lleol i ddysgwyr Almaeneg. Yn dilyn lansiad llwyddiannus yn Abertawe yn ne Cymru ym mis Gorffennaf, cynhelir lansiad i ogledd a chanolbarth Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Medi, lle gwahoddir pob disgybl ysgol sy'n astudio Almaeneg TGAU a Safon Uwch. Bydd y diwrnod yn galluogi disgyblion i ddysgu am wahanol agweddau ar hanes a diwylliant Almaeneg, a rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau ymarferol fel cyfieithu comics ac ysgrifennu barddoniaeth Almaeneg.
Cysylltiadau defnyddiol:
- Arolwg y CBI ar ba ieithoedd y mae rheolwyr y DU yn rhoi gwerth arnynt: http://www.cbi.org.uk/media-centre/news-articles/2012/06/which-languages-do-uk-managers-value/ <http://www.cbi.org.uk/media-centre/news-articles/2012/06/which-languages-do-uk-managers-value/>
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2014