Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig Bangor
Mae Athro o Brifysgol Bangor yn Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig Bangor. Caiff yr arddangosfa, map ac ap sy'n olrhain hanes Iddewig Bangor ei lansio y mis yma.
Teitl yr arddangosfa a'r map yw Hanes Iddewig Bangor, ac mae'n dathlu hanes yr Iddewon ym Mangor o'r canoloesoedd hyd at yr Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).
Cynhelir y lansiad yn Oriel 'Cynllun Celfyddydau Bangor' yng Nghanolfan Siopa Deiniol, Stryd Fawr Bangor, o 2-4 pm ddydd Sul 17eg Mawrth. Mae croeso i bawb ac mae'n rhad ac am ddim.
Bydd cyflwyniad byr gan oruchwylydd y project, yr Athro Nathan Abrams o'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, a Gareth Roberts o Broject Cerdded a Darganfod Menter Fachwen a fu'n helpu creu'r map.
Rydym yn annog trigolion lleol i ddod i rannu eu hatgofion o gymuned Iddewig Bangor, gan gynnwys y siopau adnabyddus, Wartski's a Pollecoff's.
"Mae gan Ddinas Bangor a'r cyffiniau hanes Iddewig cyfoethog," meddai'r Athro Abrams. "Ond yn anffodus, wrth i'r gymuned ddirywio a diflannu, a'r trawsnewid a fu ar y stryd fawr, does dim llawer o bobl yn gwybod yr hanes."
Ychwanegodd Abrams, "Mae yno o flaen ein llygaid ond er hynny mae dan gêl. Ac nid yn unig y mae'r map, yr ap a'r arddangosfa'n cofnodi'r hanes maent hefyd yn eich helpu chi ddod o hyd iddo."
"Rydyn ni'n gobeithio y daw pobl atom i adrodd eu straeon wrthym cyn iddynt fynd yn angof."
Symudodd nifer fawr o Iddewon i Fangor ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roeddent yn dianc rhag erledigaeth yn Nwyrain Ewrop ac yn dymuno bywyd gwell ym Mhrydain.
Roedd Bangor yn cynnig cyfleoedd economaidd newydd a chyffrous. Wrth i'r gymuned dyfu, bu synagog a cigydd kosher hyd yn oed.
Ymgartrefodd Iddewon a oedd wedi ffoi rhag y Natsïaid ym Mangor a daeth nifer yma'n efaciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymdoddodd yr Iddewon yn dda iawn i'r gymuned leol, gan ddysgu Cymraeg a chymryd rhan mewn Eisteddfodau lleol.
Cafodd rhai fel Isidore Wartski effaith drawsnewidiol ar y ddinas, gan helpu adeiladu projectau tai newydd a diddymu tollau Pont Menai.
"Ariannwyd yr arddangosfa, y map a'r ap gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Bangor, a mawr yw ein diolch iddynt. Bu gennyf ddiddordeb yn hanes Iddewig Bangor a bûm yn ymchwilio iddo ers tro byd a bu hyn yn fodd troi'r diddordeb hwnnw'n eitemau diriaethol."
"Yn ddelfrydol, hoffem gyflwyno hyn i drefi eraill yn y gogledd lle bu cymunedau Iddewig, sef Bae Colwyn, Llandudno a'r Rhyl ond mae angen mwy o arian arnynt. Da chi, dewch os oes gennych ddiddordeb."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019