Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor
Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad.
Gan adeiladu ar enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil, addysgu a chyfraniad ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n dyddio yn ôl at sefydlu'r brifysgol a llyfrgell y brifysgol yn 1884, mae'r ganolfan newydd hon yn ffurfioli'r maes astudio pwysig hwn ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ôl yr Athro Raluca Radulescu, ‘Mae'r ganolfan newydd yn dathlu dros gan mlynedd o weithgarwch ysgolheigaidd parhaus ym meysydd astudiaethau Celtaidd ac Arthuraidd, gydag uchafbwyntiau arbennig fel cyfraniad ysgolheigion Arthuraidd yn arwain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (bu'r Athro Emeritws P.J.C. Field yn llywydd ohoni) a golygyddiaeth cyfnodolyn y gymdeithas.’
Aeth yr Athro Radulescu yn ei blaen i ddweud: ‘Prifysgol Bangor yw'r unig le yn y byd sy'n cynnig MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, ac mae cyn-fyfyrwyr Bangor wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd rhyngwladol mewn addysg uwch, cyhoeddi a llyfrgellyddiaeth. Mae casgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor wedi elwa o dderbyn casgliad Harries o ddeunyddiau Arthuraidd o Sir y Fflint yn 2015, ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad mewn nifer o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar y chwedlau Arthuraidd - fel y dangoswyd gan ddarlith yr Athro Field ar leoliad Camelot yn ddiweddar.
Mae'r chwedlau Arthuraidd wedi eu gwreiddio mor ddwfn mewn bywyd, diwylliant a gwleidyddiaeth modern fel bod cyfeiriadau at y cleddyf yn y garreg yn ymgyrch farchnata Guinness neu hyd yn oed Camelot fel treftadaeth yr Arlywydd J.F. Kennedy yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn gallu eistedd ochr yn ochr â'n defnydd o ymadroddion fel 'bwrdd crwn' a'r 'Greal Sanctaidd' yn ein hiaith bob dydd. Ffynhonnell nifer o ffantasïau modern yw'r atgyfodiad ac ailddehongliad o'r chwedlau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'r ffynonellau canoloesol yn parhau i fod yn ffocws llawer o ymchwil a diddordeb ymhlith cynulleidfaoedd ysgolheigaidd a'r cyhoedd fel ei gilydd. Bydd ffilm Hollywood newydd am chwedl y cleddyf a ffilmiwyd yn Eryri, yn cael ei rhyddhau’n ddiweddarach eleni, felly rydym mewn sefyllfa dda i ddangos gwreiddiau'r hanesion yng Nghymru'r Oesoedd Canol.'
Cynhelir y digwyddiad lansio am 4pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prifysgol Bangor.
Yn dilyn sylwadau rhagarweiniol gan Dr Aled Llion Jones (Ysgol y Gymraeg), ar y pwnc 'Arthur yng Nghymru - Arthur ym Mangor', bydd yr Athro Emeritws P.J.C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yn rhoi anerchiad byr ar 'Malory's Round Table'.
Traddodir y brif ddarlith, 'Portable Arthur: Why medieval legends are still relevant to us' gan yr Athro Raluca Radulescu. Yr Athro Radulescu (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yw cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac mae hefyd yn Llywydd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a golygydd Journal of the International Arthurian Society.
Ar ôl y darlithoedd, bydd lluniaeth ar gael yn Narllenfa Shankland yn y Brif Lyfrgell a chyfle i weld arddangosfa o lyfrau Arthuraidd prin yng Nghoridor Ystafell y Cyngor, ynghyd â'r arddangosfa ryngwladol newydd ar-lein o ddeunyddiau Arthuraidd.
Os hoffech fod yn bresennol yn y lansiad, cofrestrwch yma.
Cewch fwy o wybodaeth am y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017