Lansio cwrs gradd newydd ar faes yr Eisteddfod
Yng nghanol bwrlwm bore dydd Mawrth ar faes yr Eisteddfod eleni, lansiwyd cynllun gradd newydd gan Ysgol y Gymraeg, sef Cymraeg Proffesiynol. Wedi ei ddatblygu ar y cyd â Chanolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol, Canolfan Bedwyr, agorwyd y lansiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS.
Yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi flwyddyn nesaf, mae’r rhaglen newydd yn cyflwyno modiwlau megis ‘O’r Senedd i’r Swyddfa’, ‘Iaith Gwaith’ am y tro cyntaf a bydd cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr gael cyfnodau o brofiad gwaith â sefydliadau a busnesau lleol. Yn ogystal â derbyn hyfforddiant ymarferol ac astudio agweddau galwedigaethol megis cyfieithu a chynllunio ieithyddol, bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i astudio llenyddiaeth Cymru hyd at y presennol gan roi iddynt gydbwysedd rhwng y traddodiadol a’r ymarferol.
Yn llywio’r lansiad ar stondin y Brifysgol oedd Yr Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, a ddywedodd:
“Rhwng holl draddodiad academaidd Ysgol y Gymraeg a phrofiad ymarferol cyfoethog Canolfan Bedwyr, bydd y radd newydd hon, yn cynnig mynediad ardderchog i farchnad waith y Gymru sydd ohoni.”
Ategwyd hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, a ddywedodd:
“Mae’n anrhydedd cael lawnsio cwrs gradd newydd Prifysgol Bangor, Cymraeg Proffesiynol. Mae’n amlwg fod y cwrs hwn yn ymateb i’r galw gan gyflogwyr am sgiliau Cymraeg unigryw ac addas ar gyfer y gweithle. Mae’n brawf rhyfeddol o le a safle’r Gymraeg heddiw a phriodol iawn yw lansio Cymraeg Proffesiynol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.”
Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs newydd hwn yma.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016