Lansio 'cyfeirlyfr unigryw ar gerddoriaeth Cymru'
Ar nos Iau, Medi 27ain, yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, cynhaliwyd digwyddiad i nodi lansiad cyfrol newydd a hynod arwyddocaol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru.
Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, sef cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol.
Lansiwyd y gyfrol yng nghwmni Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru – a chyn-Ganghellor y Brifysgol – Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a nifer helaeth o’r rhai a fu’n gweithio’n ddiwyd ar y gyfrol dros gyfnod o chwe blynedd.
Yr Athro Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor yw golygyddion y gyfrol a derbyniwyd erthyglau gan nifer helaeth o awduron yn y maes. Ar y noson, cafwyd cyngerdd ysblennydd gan Mared Emlyn (telyn), Huw Ynyr (tenor), Glian Llwyd (piano), Osian Huw Williams (gitâr) a Chôr Seiriol. Gwahoddwyd y perfformwyr hyn i gymryd rhan yn y lansiad oherwydd eu cyswllt uniongyrchol ag Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.
Ceir yn y gyfrol dros 500 o gofnodion, yn amrywio o gerddoriaeth gynnar Gymreig i gerddoriaeth gyfoes, o gantorion gwerin i gerddorfeydd, o ‘Aberjaber’ i ‘Zabrinski’ ac wrth lansio’r gyfrol yn swyddogol, meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:
‘Fel Gweinidog y Llywodraeth â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, rwy’n hynod falch o gefnogi cyhoeddi’r cyfeirlyfr unigryw hwn ar gerddoriaeth Cymru. Ffrwyth ymchwil arbennig Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw’r gyfrol ac rwy’n sicr y bydd o fudd mawr i fyfyrwyr presennol ac i genedlaethau’r dyfodol.’
Un sydd â chofnod amdani yn y gyfrol yw’r delynores adnabyddus, Elinor Bennett. Wrth drafod y gyfrol, meddai:
'Y mae’r gyfrol hon yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes cerddoriaeth ein cenedl ni. I’r mwyafrif, bydd yn ganllaw hylaw ac yn gofnod o lwyddiannau’r gorffennol, ond i rai mi fydd yn ysgogiad i dorri cwys newydd yn enw’r traddodiad.'
Ategwyd hyn gan y canwr byd-enwog, Bryn Terfel, sydd hefyd â chofnod yn y gyfrol:
'O’r diwedd, dyma gyfrol sy’n rhoi sylw haeddiannol i gerddoriaeth Gymraeg – o ganu roc i gerddoriaeth glasurol, i gyd rhwng cloriau un llyfr. Mae popeth am gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig yma – cyfrol hynod ddiddorol, defnyddiol a dadlennol.'
Ac yn ôl Dr. Ioan Matthews, Prif Weithredwr Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae buddsoddiad y Coleg wedi arwain at gyfrol arbennig:
'Rwy’n falch iawn o weld buddsoddiad y Coleg yn arwain at gyhoeddi cyfrol mor safonol a sylweddol: cyfraniad nodedig iawn i ysgolheictod Cymraeg a Chymreig. Does dim amheuaeth na fydd y Cydymaith yn adnodd amhrisiadwy i fyfyrwyr sy’n astudio Cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg am flynyddoedd i ddod.'
Cyhoeddir y gwaith gan wasg Y Lolfa, Talybont gyda chefnogaeth a chymorth ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru (gol. Pwyll ap Siôn ac Wyn Thomas) ar gael nawr (£39.99, Y Lolfa).
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018