Lansio Cynllun Gwobrau One in Se7en i entrepreneuriaid ifanc yn Ysgol Busnes Bangor
Ar Ddiwrnod Byd-eang Entrepreneuriaid fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ac Ysgol Busnes Bangor nodi’r achlysur trwy lansio One in Se7en. Cynllun gwobrau newydd yw hwn i entrepreneuriaid ifainc o ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae cronfa dwf o £90 miliwn wedi’i haddo i helpu busnesau newydd a bychain yng Nghymru i ddatblygu a thyfu.
Mae’r Gwobrau One in Se7en i Entrepreneuriaid Ifainc wedi cael eu datblygu gan y dyn busnes ac entrepreneur o Landudno, Stephen Jones, perchennog 75point3 Independent Financial Advisors. Gyda chefnogaeth yr Athro Jonathan Williams o Ysgol Busnes Bangor, eu nod yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid ifainc i ddod ymlaen gyda syniadau busnes ffres ar gyfer y dyfodol.
Meddai arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones: “Entrepreneuriaid sy’n ysgogi’r economi. Mae un o bob saith o’r gweithlu yng Nghymru’n hunangyflogedig ac mae’r nifer yma’n cynyddu. Mae’r rhai sy’n cymryd y cam i greu ac adeiladu busnesau’n sicrhau swyddi a ffyniant i’r wlad i gyd. Dim ond drwy feithrin y creadigrwydd a’r menter hwnnw’n ofalus, a thrwy egni a ffydd ein pobl ifanc, y gallwn weld mwy a mwy o fusnesau cynhenid Gymreig yn datblygu gan ddod â swyddi a ffyniant allweddol i bob cymuned yng Nghymru.”
Ychwanegodd yr Athro Jonathan Williams o Ysgol Busnes Bangor: “Mae Ysgol Busnes Bangor yn hynod falch o’r cyfle i lansio’r gwobrau One in Se7en gyda 75point3. Mae annog doniau entrepreneuriaid drwy gyfrwng addysg yn allweddol ar gyfer twf busnesau’n llwyddiannus a datblygiad economaidd ein rhanbarth.
“Mae ysgolion a phrifysgolion yn chwarae rhan bwysig yn meithrin entrepreneuriaid y dyfodol. Mae’r sgiliau sylfaenol a ddysgwn o oedran cynnar, ymlaen i drafodaethau mewn gwahanol feysydd mewn prifysgol, yn helpu i ddatblygu ein gwybodaeth a’n gallu i fod yn arloesol a chreadigol. Mae’r Gwobrau One in Se7en yn rhoi cyfle i fyfyrwyr lleol feddwl y tu allan i rigolau arferol, herio doethineb gonfensiynol, deall cymhlethdodau busnes a’r economi a gwella eu sgiliau rhyngbersonol ac adeiladu tîm gyda chyd fyfyrwyr. Rwy’n sicr yn disgwyl i’r Gwobrau One in Se7en ysgogi myfyrwyr, rhyddhau egni pobl ifanc, a chreu dyheadau ar gyfer datblygiad personol naill ai mewn Addysg Uwch ac/neu ym myd busnes. Mae Ysgol Busnes Bangor yn dymuno pob llwyddiant i bawb fydd yn cystadlu am y gwobrau eleni ac yn y dyfodol.”
Meddai Stephen Jones, sefydlydd a pherchennog 75point3: “Y nod yw i ddisgyblion gynnig syniad newydd neu syniad gwell a fydd yn arwain at fwy o ffyniant yn eu cymuned leol. Nid oes raid iddo fod yn gymhleth ac, yn ddelfrydol, bydd yn rhywbeth y gellir ei roi ar waith heb ymrwymiad ariannol mawr. Mae’r syniad yn debygol o gynnwys cynllun busnes o ryw fath, ond nid oes raid iddo fod yn fusnes newydd os gallant weld ffordd arall y gallai’r gymuned elwa. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn cynigion yn hydref 2011 drwy YouTube neu gyfrwng digidol arall, a byddwn yn rhoi’r gwobrau yn 2012. Gall busnesau sy’n noddi wneud cais drwy eBay, ond dylent wneud hynny’n fuan gan fod cydweithwyr busnes wedi dangos diddordeb sylweddol yn barod.”
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011