Lansio Elevate Cymru
Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw Elevate Cymru sy’n rhoi cyfle i gyflogwyr a gweithwyr fanteisio ar gyrsiau wedi eu hariannu’n llawn i hybu twf a chynaliadwyedd. Yn ystod y lansiad, bu tri phrif siaradwr yn annerch cynulleidfa oedd yn cynnwys dros 100 o bobl. Cynhaliwyd nifer o weithdai blasu hefyd.
Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, a groesawodd lansiad Elevate Cymru fel ‘cyfnod cyffrous i’r brifysgol’.
Yn ei anerchiad, dywedodd yr Athro John Hughes:
“Mae hwn yn amser cyffrous i’r Brifysgol. Rydym yn ymwneud ag addysg bellach a busnesau fwy nac erioed. Mae strategaeth gyffredin yn cael ei datblygu yng Nghymru trwy brifysgolion yn cydweithio gyda’i gilydd a chyda colegau. Mae’r strategaeth yn ein galluogi i weithio'n fwy effeithiol gyda’r gymuned busnes a’u cynorthwyo i ddysgu sgiliau newydd.”
Roedd AC Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, hefyd yn siarad yn ystod y lansiad a chanmolodd Elevate Cymru fel ‘project sy’n dod â chyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru’.
Disgrifiodd economi Cymru fel “marchnad anodd a chreulon i gystadlu ynddi.” Ac aeth ymlaen i ddweud:
“Er mwyn aros ar y blaen, mae’n rhaid bod yn arloesol. Mae’n rhaid i fusnesau ddarparu nwyddau a gwasanaethau y mae pobl eisiau eu prynu, ond mae'n rhaid iddynt hefyd feddu ar sgiliau marchnata da, rheolaeth ariannol gadarn ac arweinwyr cryf.
“Mae llawer o fusnesau’n brin o’r amser a’r capasiti sydd eu hangen i wella sgiliau eu gweithwyr, felly mae'n rhaid i ni gynorthwyo ein prifysgolion a'n colegau i greu cysylltiadau gyda busnesau er mwyn mynd i'r afael â hyn. Nid y llywodraeth sy’n creu swyddi, busnesau sy’n creu swyddi a gall Elevate Cymru helpu busnesau i fod yn arloesol.
“Mae’r economi’n ddynamig bob amser. Rydym yma i fanteisio ar gyfleoedd newydd neu grebachu a bydd Elevate Cymru yn gymorth i ddatblygu sgiliau’r gweithlu. Bydd Elevate Cymru’n llwyddo yn y pen draw os gall greu mwy o swyddi a mwy o swyddi gyda chyflogau gwell. Mae’n rhaid i fusnesau dyfu a chreu mwy o gyfoeth trwy fod yn fwy slic, yn gyflymach ac yn fwy creadigol.”
Dywedodd David Sullivan, Pennaeth yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, mai diben Elevate Cymru yw ymwneud gyda busnesau a darparu’r cyrsiau a’r sgiliau maent yn gofyn amdanynt, yn hytrach na’r rhai mae prifysgolion neu golegau yn credu sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Sarah Ellwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Supertemps, asiantaeth cyflogaeth sydd â swyddfeydd ym Mangor a Bae Colwyn, bod y ffaith iddi gofrestru gyda LEAD Cymru wedi ei helpu i drawsnewid ei busnes. Croesawodd Elevate Cymru fel ‘cam naturiol ymlaen’ fydd o fudd i arweinwyr busnes a gweithwyr.
Dywedodd Bill Farnell, arweinydd project Bangor, bod y lansiad wedi bod yn ‘lwyddiant ysgubol’.
Meddai: “Rydym wedi cael ymateb gwych gan y busnesau a ddaeth i’r digwyddiad ac roedd y lansiad yn llwyddiant ysgubol o safbwynt y busnesau a thîm Elevate Cymru.
“Mae llawer o’r perchnogion busnes a’r gweithwyr rwyf wedi siarad â hwy wedi dweud bod dull unigryw Elevate Cymru yn caniatáu i fusnesau fanteisio ar hyfforddiant wedi ei gyllido’n llawn ledled Cymru oherwydd bod pob prifysgol yng Nghymru yn cydweithio ar y fenter. Roedd perchnogion busnesau a gweithwyr yn teimlo y byddai o fudd mawr iddynt gofrestru ar y rhaglen. Yn wir, mae o leiaf 16 o’r bobl yma heddiw wedi mynegi diddordeb mewn ymuno ag Elevate Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth yn cofrestru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Un o’r perchnogion busnes yw Marina Kogan, hyfforddwraig broffesiynol ym Mae Colwyn.
Wrth sôn am Elevate Cymru, dywedodd: “mae rhoi gymaint o gefnogaeth i fusnesau lleol yn syniad da iawn.
“Mae’n amlwg mai'r prif amcan yw rhoi sgiliau a chymorth ymarferol i fusnesau allu cynyddu eu cynhyrchiant. Gydag amrywiaeth mor eang o fanteision, mae’n sicr y bydd yr elw ar y buddsoddiad o gofrestru gyda’r rhaglen yn uchel.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012