Lansio Llyfryddiaeth Llafar Gwlad
Fel rhan o broject y cynllun Mynediad i Radd Meistr mewn partneriaeth rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Gwasg Carreg Gwalch, lluniodd Siôn Pennant Tomos lyfryddiaeth Llafar Gwlad - cylchgrawn chwarterol sy’n rhoi sylw i lên gwerin, crefftau, cymeriadau, iaith lafar a hiwmor gwlad.
Caiff Llyfryddiaeth Llafar Gwlad ei lansio am 12.30 ddydd Mawrth 7 Awst yn stondin Prifysgol Bangor ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd y gwaith ar gael yn electronig – ar ffurf ffeil PDF – i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar wefan Gwasg Carreg Gwalch. Felly, ni fydd disgwyl i neb estyn am na phwrs na waled yn ystod y lansiad hwn!
Meddai Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch:
“Cylchgrawn a dyfodd o blith cymdeithas o bobl oedd yn rhannu’r un diddordebau yw Llafar Gwlad, ac mewn awyrgylch o’r fath mae anffurfioldeb yn beth hollol naturiol rhannu’r deunydd ac ysgogi eraill i gofio, casglu a rhannu fu’r nod. Ond ambell dro, mae’n werth edrych yn ôl dros y gwaith yn ogystal â phalu ymlaen. Mae bron ddeng mlynedd ar hugain o rifynnau yn golygu ei bod hi’n anoddach nag oedd hi i daro ar yr union rifyn er mwyn cael ailflasu ysgrif neu gadarnhau rhyw stori neu’i gilydd. Ond dydi creu rhestrau ddim yn rhan o anian cyfranwyr y cylchgrawn hwn a dyna fendith fawr oedd cael llafur trylwyr a defnyddiol Siôn Pennant Tomos sy’n rhestru pob cyfraniad yn ôl enw’r awdur. Clamp o waith a chlamp o gymwynas.”
Yn ychwanegol at Wasg Carreg Gwalch, mae Ysgol y Gymraeg wedi creu projectau ar y cyd gydag Antur Nantlle, Barn Cyf., Amgueddfa Lechi Cymru/Amgueddfeydd Cymru, Canolfan Dreftadaeth Cae’r Gors, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd/Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Da Cyf., Cyngor Llyfrau Cymru, Gwasg y Bwthyn, Rondo Media Cyf. a’r Lolfa Cyf.
“Mae staff Adran y Gymraeg ym Mangor wedi cyfrannu erioed i fywyd diwylliannol Cymru a hynny drwy weithgareddau diwylliannol y tu hwnt i furiau Coleg a Phrifysgol. Mae'r cynlluniau ATM a KESS yn rhoi cyfle i ni gydweithio gyda phartneriaid allanol mewn ffordd fwy strategol. Maen nhw'n profi fod cyflogwyr yn gweld budd mewn cydweithio gyda'r byd academaidd, a bod y Gymraeg fel pwnc yn arwain at brofiadau gwych i fyfyrwyr yn y gweithle - dyma bwnc sy'n pontio'n gwbl naturiol rhwng profiadau myfyrwyr mewn prifysgol a byd gwaith. Roedd cael cydweithio gyda Gwasg Carreg Gwalch ar y project hwn yn brofiad gwerthfawr iawn i ni fel adran academaidd a i Siôn," meddai’r Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg.
Mae’r cynllun Mynediad i Radd Meistr, ynghyd â chynlluniau KESS, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brojectau MA a PhD mewn cydweithrediad â chwmnïau neu gyrff eraill, a hynny dan nawdd rhaglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012