Lansio partneriaeth arloesol Addysg Athrawon yng Ngogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer yn hynod falch o'r cyhoeddiad heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi achredu eu cyrsiau newydd arfaethedig ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, a gaiff eu cyflwyno o 2019 ymlaen.
Gwahoddwyd pob prifysgol yng Nghymru i wneud cais am yr achrediad hwn, a bu ein partneriaeth newydd arloesol - a elwir yn CaBan (Caer a Bangor) - yn llwyddiannus yn y fenter hon. Mae CaBan yn bartneriaeth arloesol sy'n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer, rhwydweithiau o ysgolion, GwE (Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru) a sefydliad ymchwil addysg CIEREI, ac maent yn cydweithio i addysgu athrawon o ansawdd uchel, hynod fedrus ac uchelgeisiol at y dyfodol.
Mae'r holl bartneriaid wedi chwarae rhan o bwys wrth lunio'r rhaglenni addysg athrawon newydd, ac mae'r achrediad yn tystio'n glir i hyder yng ngallu CaBan i gyflawni dyheadau aruchel diwygio addysg, a amlinellwyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn Ein Cenhadaeth Genedlaethol.
Mae'r rhaglenni newydd a gynigir yn cynnwys TAR Uwchradd, TAR Cynradd (3-11 oed) a chwrs tair blynedd BA Addysg Gynradd (3-11 oed). Bydd y rhain yn rhoi profiadau o ansawdd uchel ar draws rhwydwaith o amgylcheddau dysgu gwahanol a heriol, yn cynnwys amrywiaeth eang o ysgolion.
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Bydd y cydweithio rhwng myfyrwyr, prifysgolion, consortia rhanbarthol, awdurdodau addysg lleol, partneriaid allanol ac ysgolion yn allweddol i godi safonau addysg yng Nghymru."
Ychwanegodd Yr Athro Tim Wheeler, Is-ganghellor Prifysgol Caer, ac un o raddedigion Prifysgol Bangor: "Oherwydd ein bod ar y ffin, rydym yn gweld Gogledd Cymru fel rhan bwysig o'n cymuned leol a rhanbarthol. Rydym yn falch o fanteisio ar y cyfle ar y cyd hwn i weithredu agenda Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Gweithlu Addysg ym maes addysg athrawon a chefnogi a gwella ysgolion."
Meddai Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE: "Mae'r datblygiad hwn yn allweddol i gefnogi rhagoriaeth yn ein holl ysgolion. Mae'n hanfodol bod ein hysgolion yn cynnwys myfyrwyr/Athrawon Cysylltiol a fydd yn myfyrio ar eu taith gydol oes o Ddysgu Proffesiynol Parhaus."
Mae holl bartneriaid CaBan wedi ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd uchel, gan ganolbwyntio ar allu myfyrwyr/athrawon cysylltiol i wasanaethu anghenion ieithyddol, diwylliannol, addysgol a lles ein plant ar draws Gogledd Cymru, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Canolbwynt gweledigaeth CaBan yw rhoi'r lle canolog i'r dysgwr.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2018