Lansio project arloesol i ddiogelu ein coed derw eiconig
Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi cynnydd mewn afiechydon sy'n effeithio ar ein coed derw eiconig, ond bydd project arloesol yn ymchwilio i gyfraniad microbau buddiol at ymladd afiechydon sy'n effeithio ar ein coed derw brodorol.
Bydd y project FUTURE OAK, sy'n cynnwys gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Forest Research a’r Sylva Foundation, yn astudio sut mae newid amgylcheddol ac afiechydon yn effeithio ar ficrobiomau coed derw.
Ceir oddeutu 170 miliwn o goed derw yn y Deyrnas Unedig, a mwy o goed derw hynafol na gweddill Ewrop i gyd. Mae coed derw brodorol yn cynnal dros 2000 o rywogaethau o bryfed, adar, mamaliaid a ffyngau, ond mae newid yn yr hinsawdd, gweithgareddau dynol, ac achosion o afiechydon coed yn effeithio ar iechyd ein coedwigoedd. Mae dirywiad acíwt coed derw (neu AOD) yn fygythiad sylweddol i'n coed derw brodorol. Mae coed sy’n dioddef dirywiad acíwt coed derw yn cael eu gwanhau gan straen amgylcheddol, fel sychder, ac mae sawl bacteria gwahanol yn achosi i feinwe'r rhisgl mewnol bydru. Mae chwilod hefyd yn bwydo ar risgl mewnol coed gwan, sy’n cynyddu gweithgaredd bacteriol ymhellach. Yn y pen draw, mae'r rhisgl allanol yn torri, gan ryddhau hylif o'r meinwe fewnol sy'n pydru ac yn achosi'r 'gwaedu' yn y boncyff a welir ar goed sy’n dioddef o ddirywiad acíwt coed derw.
Fel pobl, mae gan goed driliynau o ficrobau sy’n byw arnynt ac ynddynt. Yr enw ar y casgliad hwn o ficrobau a'r rhan o'r planhigyn lle maent yn weithredol yw'r 'microbiome'. Mae microbiomau yn bwysig i iechyd planhigion ac anifeiliaid - maent yn darparu maetholion ar gyfer twf, yn rheoleiddio systemau imiwnedd, ac yn amddiffyn rhag pathogenau. Mae microbau buddiol mewn microbiome coeden yn hanfodol i ymladd afiechydon.
Meddai’r Athro James McDonald, arweinydd y project:
“Bydd y project FUTURE OAK yn dadansoddi cannoedd o goed derw brodorol ledled Prydain i ddeall pa ficrobau sy'n hybu iechyd ac yn ymladd afiechydon. Yna byddwn yn profi gallu'r microbau hyn i atal bacteria sy'n achosi afiechyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu triniaethau bioreoli ar gyfer y microbiome derw, i hyrwyddo coed iachach ac i atal symptomau dirywiad acíwt coed derw. Gan weithio gyda rheolwyr coedwigoedd, byddwn yn ceisio deall sut mae microbiomau yn cyd-fynd â’r ddealltwriaeth sydd gennym o iechyd coed, a sut gall ein hymchwil helpu.”
Meddai’r Athro McDonald:
“Rydym yn falch iawn o gael cyllid ar gyfer y project hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda pherchnogion tir a rheolwyr coedwigoedd i ddiogelu ein coed derw eiconig a'r ecosystemau maent yn eu darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Dywedodd y Prif Swyddog Iechyd Planhigion, Nicola Spence:
“Mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein coed derw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd project ymchwil FUTURE OAK yn chwarae rhan bwysig wrth ddod o hyd i atebion i wneud y rhywogaeth eiconig hon o goeden yn fwy gwydn. Cefnogir y project hwn gan Action Oak - partneriaeth arloesol, gydweithredol sy'n codi arian ar gyfer projectau ymchwil uchelgeisiol fel FUTURE OAK."
Cefnogir yr ymchwil gan £1.3M o gyllid gan y Bacterial Plant Diseases Programme wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Defra a Llywodraeth yr Alban a chaiff hefyd ei gefnogi gan Action Oak.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2021